Mae Sul y Mamau bron yma unwaith eto, a pa ffordd well o ddangos eich gwerthfawrogiad na gyda blas blasus caws Dragon? O wead briwsionllyd Caerffili i flas sawrus ac aeddfed ein hystod Ceudwll, mae caws Cymreig yn ffordd berffaith o wneud eich dathliad Sul y Mamau yn wirioneddol arbennig.
Mae gan gaws Cymreig hanes cyfoethog sy’n dyddio’n ôl nifer o ganrifoedd. Mae llawer o’r cawsiau a gynhyrchir yng Nghymru heddiw yn cael eu gwneud gan ddefnyddio dulliau traddodiadol sydd wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Y canlyniad yw amrywiaeth o gawsiau sy’n gyfoethog o ran blas ac yn llawn treftadaeth.
Un o’n ffefrynnau ar gyfer Sul y Mamau yw ein Caws Cymreig o Geudwll. Wedi’i wneud gan ddefnyddio llaeth Cymreig yn unig, mae ein Cheddar Ceudwll Cymreig fel arfer yn aeddfedu am 12 mis i greu caws sy’n gyfoethog, yn hufennog ac yn llawn blas. Mae gan y caws wead ychydig yn friwsionllyd sy’n toddi yn eich ceg a blas sawrus ond hufennog sydd yn berffaith gyda unrhywbeth.
Dyma ychydig o ffyrdd i fwynhau ein caws ar Sul y Mamau:
Bwrdd Caws Brecwast
Creu bwrdd caws hardd sy’n cynnwys ein caws Dragon, cracers, a charcuterie ar gyfer creu Gwledd blasus bydd eich mam yn siwr o fwynhau.
Caws ar Dost
Does dim byd tebyg i ‘toastie’ caws clasurol, ac mae ein Cheddar Aeddfed y Ddraig yn gaws perffaith i’w ddefnyddio. Yn syml, haenwch dafelli o gaws rhwng dau ddarn o fara, griliwch nes ei fod wedi toddi, a gweinwch gyda phowlen o gawl neu salad. I gael blas a gwead ychwanegol ceisiwch ychwanegu ein menyn hallt Cymreig Dragon ar y top.
Pei Pysgod ‘Mac ‘n’ Cheese’
Tretiwch eich mam i’n pastai pysgod mac ‘n’ cheese cartref. Mae ein rysáit yn hawdd i’w ddilyn ac mae’n cynnwys saws caws hufennog, melys na fydd eich mam yn gallu ei wrthsefyll.
Crympets Caws gyda Welsh Rarebit
Mae Welsh Rarebit yn rysait glasurol sy’n cael ei wneud gyda saws caws cyfoethog wedi’i dywallt dros dost. Rhowch gynnig ar ein rysait gan Michelle Evan-Fecci gyda chrwmpets. Mae ein Cheddar Cymreig a Chaerffili yn berffaith i’w defnyddio ar gyfer y pryd hwn.
Sut bynnag rydych chi’n dewis mwynhau ein caws Dragon, mae’n siŵr o fod yn boblogaidd gyda’ch mam ar Sul y Mamau. Felly beth am wneud trit bach I’ch mam yn defnyddio cynyrch Cymreig?