Ein Treftadaeth

1938
Ar y 10fed o Ionawr 1938, daeth y llwyth cyntaf (394 galwyn) o laeth i'r hufenfa.
Hufenfa yn cael ei Sefydlu

Mae hanes Dragon yn mynd yn ol i 1938 pan oedd gan John Owen Roberts weledigaeth i weld ffermwyr llaeth yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn gallu marchnata cynnyrch eu hunain

Dewiswyd lleoliad i’r hufenfa yn ofalus. Cafodd Rhydygwystl ei ddewis oherwydd ei fod yn hwylus rhwng Llyn ac Eifionydd, a bod y ddwy ardal bryd hynny, ac heddiw yn nodweddiadol am dyfu porfa o safon, yn sgil y gwynt ysgafn o ffrydiau gwlff yr Iwerydd.

1940
Mewn ychydig dros flwyddyn fe gynyddodd yr aelodaeth o 63 i 196 o Ffermwyr Cymreig. Erbyn 1940 roedd 465 o aelodau gyda 15 o weithwyr yn ychwanegol yn yr hufenfa. Roedd busnes yn mynd yn dda!
Aelodaeth o 465
1941
Gwerthwyd yr holl laeth a dderbyniwyd yn yr hufenfa i'r farchnad hylif ar gais y Weinyddiaeth Fwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
Yn ystod y Rhyfel

Pob dydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd llefrith yn cael ei cludo mewn caniau llaeth ar dren o Chwilog i drefi Gogledd Orllewin Lloegr. Rhoddodd hyn hwb mawr oedd ei angen i'r Hufenfa a dosbarthwyd yr elw ychwanegol a gynhyrchwyd fel taliadau bonws i'w haelodau.

1959
Ar y 1af o Ebrill 1959 fe agorwyd yr uned cynhyrchu caws.
Ehangu i gynhyrchu caws

Cyrhaeddodd cynhyrchiant llaeth ei lefel uchaf erioed a phenderfynwyd ar ddiwedd y 1950au y byddai caws yn opsiwn da i'r llaeth dros ben.

Dechreuodd y safle gynhyrchu yn 1959 gan greu'r brand 'Caws Llŷn'. Profodd hwn yn frand poblogaidd sy'n dal i gael ei gydnabod yn lleol heddiw.

1968
Gwnaed y casgliad cyntaf o laeth gan ddefnyddio tancer swmp.
Tancer Llaeth
1970
Ym 1970 derbyniodd John Owen Roberts MBE am ei gyfraniad amhrisiadwy i ddiwydiant llaeth Cymru.
Derbyniodd J.O.Roberts ei MBE
Add Description Here
2004
Lawnsiwyd y brand Dragon.
Lawnsio y brand Dragon.

Yn 2004 ail-frandiodd yr hufenfa eu cynnyrch cheddar gan lawnsio y brand 'Dragon' sy'n adnabyddus heddiw.  

2015
Yn 2015 fe wnaethom ehangu ein dewis cynnyrch Dragon i gynnwys ein Cawsiau wedi'u gwneud â llaw. Gan gydweithio gyda chwmnïau o Gymru mae'r amrediad yn cynnwys Cheddar Cymreig o Geudwll Llechi, Cheddar Halen Môn Aeddfed, a Cheddar Wisgi Penderyn.
Cynnyrch newydd, Wedi'i wneud a Llaw, Dragon.

Cawsiau wedi'u gwneud â llaw (Ch-Dd Cheddar Cymreig o Geudwll, Cheddar Aeddfed wedi ei Gochi, Cheddar Aeddfed gyda Halen Mor Halen Mon a Cheddar Cymreig o Geudwll gyda Wisgi Penderyn).