Mae Dragon yn eiddo i Hufenfa De Arfon (HDA)

Yr Hufenfa fydd y Rheolydd Data ar gyfer unrhyw ddata personol y byddwch yn ei rannu gyda ni. Dyma ein manylion cyswllt:   Hufenfa De Arfon (HAD), Rhydygwystl, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SB Ffôn: +44 (0) 1766 810251 Ebost: info@sccwales.co.uk  

Gwarchod eich gwybodaeth;

Yn Hufenfa De Arfon (HDA) rydym yn addo amddiffyn eich preifatrwydd drwy’r Polisi Preifatrwydd hwn a’ch hawliau dan y Ddeddf Diogelu Data. Mae’r polisi hwn yn esbonio pam ein bod yn gofyn am wybodaeth bersonol, sut y gallwch roi neu wrthod eich caniatâd, pa wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani, a phwy arall allai fod â mynediad iddo. Yr unig wybodaeth bersonol fydd gennym yw’r hyn a gyflenwir gennych yn wirfoddol. Gallwch newid eich manylion, gan gynnwys optio i mewn ac optio allan am wahanol wasanaethau, drwy ymweld â manylion eich cyfrif personol yn https://www.dragonwales.co.uk ar unrhyw adeg.  

Pam ein bod yn gofyn am wybodaeth personol?

Y prif reswm y gofynnwn amdanynt, prosesu a storio eich gwybodaeth bersonol yw gallu darparu’r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt. Gallai’r gwasanaethau hyn gynnwys prynu, gwybodaeth a diweddariadau neu gwblhau holiaduron a chystadlaethau. Bydd Hufenfa De Arfon (HDA) neu ein darparwyr gwasanaeth yn casglu ac yn storio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion a all gynnwys:
  • Darparu y gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdanynt
  • Lle rydych wedi cydsynio, i gysylltu â chi pe bai gennym newyddion i’w rhannu â chi ynglŷn â’n cynnyrch a’n gwasanaethau
  • Galluogi trydydd partïon i brosesu a rheoli eich gwybodaeth er mwyn ein galluogi i ddarparu’r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt
  • At ddibenion diogelwch, gweinyddol, a chyfreithiol
  • Diweddaru a gwella’r wefan a’r gwasanaethau a ddarperir
  • Gall eich gwybodaeth hefyd gael ei rhannu â thrydydd partïon allanol ar gyfer dadansoddi marchnata gan HDA lle bydd gwybodaeth ond yn cael ei rannu at ddibenion paru a bydd canlyniadau’n cael eu defnyddio ar sail ddienw.
  • Lle mae’r wefan yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol, byddwn yn eich hysbysu o sut rydym yn bwriadu defnyddio’r wybodaeth a byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol. Ac eithrio fel y nodir uchod, ni fyddwn yn datgelu, gwerthu na rhentu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti oni bai eich bod wedi cydsynio i hyn. Os byddwch yn cydsynio ond yn ddiweddarach newid eich meddwl, gallwch gysylltu gyda ni a byddwn yn rhoi’r gorau i unrhyw weithgaredd.
  • Lle mae’r wefan yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol, byddwn yn eich hysbysu o sut rydym yn bwriadu defnyddio’r wybodaeth a byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol. Ac eithrio fel y nodir uchod, ni fyddwn yn datgelu, gwerthu na rhentu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti oni bai eich bod wedi cydsynio i hyn. Os byddwch yn cydsynio ond yn ddiweddarach newid eich meddwl, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn rhoi’r gorau i unrhyw weithgaredd o’r fath.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhan bwysig o sut mae Hufenfa De Arfon (HDA) yn rhyngweithio â chi. Os ydych yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol (e.e. trwy fewngofnodi i Gylchlythyr y Ddraig gan ddefnyddio eich mewngofnodi facebook), byddwn yn gofyn i’ch caniatâd gael mynediad at eich enwau cyntaf a’r olaf, a’ch cyfeiriad e-bost, a dynodwr Facebook sy’n dweud wrthym eich bod wedi mewngofnodi gyda Facebook. Gallwch gysylltu neu ddad-gysylltu eich cyfrif Dragon Newsletter o gyfrif ar wasanaeth arall (e.e. Facebook), drwy newid gosodiadau eich cyfrif. Efallai y byddwch yn optio i mewn i dderbyn cyfathrebiadau marchnata pan fyddwch yn cofrestru gyda’r wefan ac efallai y byddwch yn tynnu’r dewis hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg. Ar ôl i chi ddewis, byddwn yn darparu’r gwasanaethau y byddwch wedi gofyn amdanynt drwy e-bost fel y gofynnwyd amdanynt. Os hoffech optio allan o dderbyn cyfathrebiadau marchnata, rhowch wybod idrwy gysylltu ar ebost info@sccwales.co.uk.

Eich caniatâd

Drwy gofrestru gyda Dragon, rydych yn cydsynio i gasglu a defnyddio’r wybodaeth y byddwch yn ei chyflwyno’n wirfoddol, at y dibenion a ddisgrifir uchod. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol ond yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol am ddiogelu data. Mae ein holl ohebiaeth e-bost yn cynnwys opsiwn dad-danysgrifio fel y gallwch optio allan o gyswllt e-bost pellach os ydych yn dymuno hynny.

Eich Hawliau

Mae gennych yr hawliau canlynol:
  • Yr hawl i ofyn i ni ddarparu copïau o wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch ar unrhyw adeg.
  • Yr hawl i ofyn i ni ddiweddaru a chywiro unrhyw wybodaeth bersonol hen neu anghywir sydd gennym amdanoch
  • Yr hawl i optio allan o unrhyw gyfathrebiadau marchnata yr ydym ni (neu unrhyw drydydd parti wedi datgelu eich gwybodaeth bersonol gyda’ch caniatâd)
  • Yr hawl i gael eich data personol wedi’i ddileu
  • Yr hawl i gyflwyno cwyn. Rhowch wybod i ni os ydych yn gwrthwynebu defnyddio eich gwybodaeth bersonol mewn unrhyw un o’r ffyrdd y sonnir amdanynt, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill sy’n gysylltiedig â phreifatrwydd, gan gynnwys am sut rydym yn casglu, storio a defnyddio gwybodaeth bersonol. Gallwch gysylltu â ni drwy ebost info@sccwales.co.uk

Pa wybodaeth a gasglwn?

Pan fyddwch yn cyrchu a phori’r wefan hon (gan gynnwys pan fyddwch yn cyflwyno gwybodaeth bersonol i ni drwy gaeau mynediad data ar y wefan), efallai y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol gennych:
  • Eich New
  • Eich Cod Post
  • Eich Cyfeiriad ebost
Er mwyn eu darparu’r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt, neu ar gyfer dadansoddi marchnata, bydd Hufenfa De Arfon (neu broseswyr data trydydd parti sy’n gweithredu ar ein rhan) yn casglu’r wybodaeth yr ydych wedi dewis ei rhoi i ni. Gallwn wneud hyn mewn 2 ffordd:
  • Yn uniongyrchol gennych chi gan ddefnyddio eich manylion cofrestru
  • Yn anuniongyrchol drwy eich ymweliadau â’r wefan hon (gweler rhagor o wybodaeth isod am gwcis)
Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y byddwn ei hangen i ddarparu’r gwasanaethau neu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, er mwyn gweinyddu eich perthynas â ni.

Sut mae cadw eich data’n ddiogel?

Mae Hufenfa De Arfon (HDA) yn cymryd camau priodol i gynnal gwybodaeth bersonol mewn amgylchedd diogel er mwyn atal defnydd heb awdurdod. Mae ein proseswyr yn rhwym wrth gontract i wneud yr un peth.

Beth sy’n digwydd pan fydda i’n dilyn dolenni ar y safle?

Os byddwch yn dilyn dolenni i safleoedd eraill o wefan Dragon bydd eich data yn amodol ar bolisïau preifatrwydd y safleoedd hynny. Dylech gyfeirio at y polisïau hyn cyn darparu eich data.

Sut mae Hufenfa De Arfon yn defnyddio Cwcis?

Mae’r wefan hon yn defnyddio nifer o “gwcis”, sef ffeiliau testun bach sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur gyda’ch caniatâd, i’n helpu ni i ddeall eich defnydd o’r wefan, i storio eich dewisiadau (lle a fynegwyd), ac i ddarparu gwasanaethau a chynigion a allai fod yn addas i’ch anghenion neu fod o ddiddordeb i chi. Gallwn hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo’n ofynnol i wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu pan fydd trydydd parti o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ein rhan. Efallai y byddwch yn gwrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, fodd bynnag, nodwch, os gwnewch hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio ymarferoldeb llawn y Safle hwn. Mae’r Safle hwn hefyd yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi gwefannau a ddarperir gan Google, Inc. (“Google”). Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r wefan. Bydd y wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r Safle (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei drosglwyddo i Google ar weinyddion yn yr Unol Daleithiau a’i storio. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon at ddiben gwerthuso eich defnydd o’r wefan, gan lunio adroddiadau ar weithgarwch gwefannau ar gyfer gweithredwyr gwefannau a darparu gwasanaethau eraill sy’n ymwneud â gweithgarwch gwefannau a defnydd o’r rhyngrwyd. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo’n ofynnol i wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu lle mae trydydd parti o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata a gedwir gan Google.Drwy ddefnyddio’r Safle hwn, rydych yn cydsynio i brosesu data amdanoch chi gan Google yn y modd hwn ac at y dibenion a nodir uchod.

Pwy arall allai weld fy ngwybodaeth bersonol?

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth lle bo’n ofynnol i wneud hynny drwy ddeddfwriaeth berthnasol, neu orchmynion llys. Pe bai cwmni arall yn caffael HDA, gellir ystyried gwybodaeth am gwsmeriaid yn ased busnes trosglwyddadwy, ac o’r herwydd bydd yn trosglwyddo i’r perchnogion newydd.

Beth Os yw’r polisi preifatrwydd hwn yn newid?

Gall Hufenfa De Arfon (HDA) ddiweddaru’r polisi hwn ar unrhyw adeg, felly ewch i weld y dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.