Pei Pysgod ‘Mac & Cheese’

Dysgl glasurol o Macaroni a Chaws wedi’i wneud gyda Llaw Gymreig wedi’i gwneud â Chaws Halen Môn
HyperFocal: 0

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

400g pasta macaroni 50g menyn hallt Dragon Olew olewydd 2 ewin garlleg mawr, wedi’i gwasgu ½ bwnsh o basil, wedi’i dorri ½ bwnsh sifys ffres, wedi’i torri ½ bwnsh dill dres 50g blaws plaen ½ llwy de o baprica mwg 2 lwy fwrdd o frandi 750ml llaeth llawn 1 llwy de o fwstard Dijon 1 llwy de o saws swydd Caerwrangon 1 llwy de Tabasco Sudd 1/2 lemwn 200g Cheddar Halen Môr Môn Dragon 225g corgimychiaid mawr amrwd wedi’i plicio 300g Haddock wedi’i ffiledu a’i dorri’n dalpiau 6 corgimwch mawr yn eu cragen

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

Coginiwch y pasta yn ôl y cyfarwyddiadau ar y paced, draeniwch yn dda a’i roi i un ochr. Cynheswch y popty i 200 ffan/ nwy 6. Yn y cyfanswer paratowch y saws. Rhowch y menyn a’r olew mewn padell ffrio mawr dwfn dros wres canolig. Pan fydd y menyn wedi toddi ychwanegwch y garlleg a’i ffrio am un munud. cymysgwch y blaws mewn i’r gymysgedd yn y badell a’i goginio am 1-2 munud, ychwanegech y paprica a’r brandi a’i goginio am funud arall. Ychwanegwch y llefrith mewn yn araf fesul tipyn nes ei fod yn llyfn. trowch y gwres i fyny a’i fudferwi am 5 munud nes ei fod wedi twchu. Ychwanegwch y mwstard, saws swydd Caerwrangon, Tabasco, sudd lemwn a rhan fwyaf o’r caws wedi’i gratio i mewn. Cymysgwch y corgimychiaid (wedi’i plicio) y pasta a’r hadoc mewn i’r saws caws. Rhowch y gymysgedd yn eich dysgl pobi a gosod y 6 corgimwch (mewn plisgyn) ar ei ben. Gratiwch weddill y caws ar ben y cyfagn a’i bobi am 20 munud nes fod y caws yn eruaidd a’r pysgod wedi’i coginio.

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?