Y ffordd orau o gadw caws ydi ei lapio mewn papur cwyr neu papur wrthsaim gan fod rhain yn galluogi’r caws anadlu ond ddim yn achosi iddo sychu’n rhy gyflym. Rhowch y caws wedi’i lapio mewn potyn aerdynn a’i storio yn y oergell.
Ceisiwch osgoi defnyddio ‘cling film’ gan ei fod yn caniatáu i leithder gasglu ag annog tyfiant o lwydni ar y caws.
Gallwch rewi caws ond bydd hyn yn newid blas a gwead y caws, peidiwch a rhewi oni bai eich bod yn coginio efo’r caws wedi ei ddadmer.
GWEINI
Tynnwch eich caws allan o’r oergell o leiaf 20 munud cyn ei weini, yn ddelfrydol dylid gweini caws ar dymheredd yr ystafell er mwyn sicrhau fod y blas ar ei orau. Os ydwych chi’n paratoi bwrdd caws, trefnwch y cawsiau ar y bwrdd ac yna gorchuddiwch â lliain tamp i atal y caws rhag sychu.
AWGRYMIADAU DIOD
Mae gwinoedd gwyn neu winoedd coch canolig yn mynd yn dda iawn efo cheddar. Efo ein caws clasurol efo cennin a’r cawsiau fwy aeddfed triwch Gwrw neu Seidr Cymreig
Caerphilly: Gwin pefriog neu seidr melys