Sbwyliwch eich tad ar Sul y Tadau

Dathlu Sul y Tadau a Diwrnod Rhyngwladol Picnic gyda'm rysait Quesadilla!

Cynhwysion
Ar gyfer y salsa.

·        1 pupur melyn

·        1 mango bach

·        8 tomato bach

·        3 shibwn

·        1 llwy de pupur jalapeno

·        Sudd 1 leim

·        Halen a pupur

 

Ar gyfer y Quesadilla.

·        4 Tortilla

·        150g Caws Dragon Aeddfed, wedi’i gratio

·        Cyw iar dros ben neu unrhyw gig oer arall

·        1 pupur gwyrdd neu goch

·        Llond llaw o ddail coriander

·        Hufen sur a guacamole

Dull
1.      Ar gyfer gwneud y salsa, ddeisiwch y pupur melyn a’r mango, a torrwch y tomatos bach i mewn i chwarteri, a torrwch y shibwn yn fan cy neu cymysgu mewn powlen gyda’r sudd leim a’r jalapenos (os yr ydych y neu defnyddio) gyda ychydig y halen a pupur.

2.      Er mwyn gwneud y Qesadillas, gosodwch dau torilla ar eich arwyneb gweithio cyn ychwanegu Caws Dragon aeddfed, y cyw iar, y pupur gwyrdd neu coch, a’r coriander, yna gosodwch y tortilla sydd yn weddill am eu pen, a gwasgu i lawr yn ofalus.

3.      Cynheswch eich padell ar wres canolig/uchel, ffriwch un Qesadilla ar y tro heb ddim olew am 2-3 munud pob ochr nes bydd y tortilla wedi crasu, y caws wedi toddi a’r cyw iar wedi poethi’n iawn. Cadwch y Quesadilla yn gynnes tra y byddwch yn coginio’r nesa.

4.      Gweinwch y Quesadilla wedi ei chwarteru, gyda’r salsa, hufen sur a guacamole.

 

Rhannwch y swydd hon ar eich hoff rwydwaith cymdeithasol!
Facebook
Twitter
LinkedIn