Cafodd ennillwyr y gystadleuaeth #TheBigCheese eu cyhoeddi yn ddiweddar. Caswom lawer o bobol yn gyrru ryseitiau bendigedig atom ni, felly dyma ‘chydig ohynynt i chi!
Gyrrodd ein ennillydd cyntaf @batchout 4 rysait i mewn yn defnyddio cynnyrch Dragon;
1) Pastrami mewn pupur wedi ei goginio mewn menyn garlleg efo bresych hispi wedi’i biclo, jalapeno, saws 3 caws, gherkins wedi’i piclo, colslo caws a srirracha mayo.
2) Cwn cimwch a nachos
Ci poeth efo cimwch wedi’i goginio mewn padell efo menyn a garlleg, Coriander a yuzu, sriracha a mayo kewpie.
Nachos efo gwacamoli cartref, chipotle, cwrw ysgafn a saws caws Dragon.
3) ‘Dirty fries’ efo cyri massaman cig oen, caws, garlleg crimp a sialots.
4) Fagots wedi’i coginio mewn nionod coch, madarch efo grefi vermouth coch ar fara surdoes wedi’i dostio a’i orffen efo Caws Dragon Handcrafted Halen Mon