Bisgedi ‘Mini Eggs’

Easter_Cookings

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

  • 125g menyn hallt Cymreig Dragon
  • 100g siwgr brown
  • 75g siwgr gwyn
  • 1 wy
  • 300g blawd codi
  • ½tsp powdr codi
  • ½tsp bicarb
  • 100g darnau siocled
  • 200g “Mini Eggs” (wedi malu)
  • 50g “Mini Eggs” (cyfan)

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

  1. Curwch y menyn a’r siwgr efo’i gilydd.
  2. Ychwanegwch yr wy a parhewch i gymysgu.
  3. Ychwanegwch y blawd, powdr codi, bicarb a cymysgwch nes mae’n ffurfio toes.
  4. Cymysgwch y siocled a’r “mini eggs” i mewn i’r does nes maent wedi eu dosbarthu’n dda.
  5. Pwyswch y does allan i beli oddeutu 100g, unwaith mae’r does mewn peli ychwangegwch y “mini eggs” cyfan i’r peli.
  6. Yna gosodwch y peli toes yn y rhewgell am oddeutu 30 munud.
  7. Gosodwch wres y popty i 200C ne 180C fan.
  8. Unwaith mae’r peli toes wedi oeri digon, gosodwch allan ar eich tin pedwar ar y tro, pwyswch pob pelan i lawr ychydig cyn eu pobi am 12-14 munud.
  9. Unwaith mae’r cwcis wedi coginio, gadewch i oeri.
  10. Mwynhewch!

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?