Bisgedi Pasg

Rysait Bisgedi Pasg

Rydym i gyd efo’n hoff wy pasg, os ydych chi yn un sy’n hoffi Crème Egg neu Mini Eggs, mae pawb yn mwynhau ychydig o siocled dros gyfnod y Pasg. Peinitio wyau ieir oedd yr hen draddodiad cyn symud at wyau siocled wedi eu gorchuddio gyda ffoil lliwgar.

Os ydych chi’n chwilio am rhywbeth i ‘neud dros penwythnos y Pasg, be am drio gwneud ein Cwcis Pasg. Mae’r rysait yma yn hawdd ac yn un blasus iawn, gan ddefnyddio ein Menyn Hallt Cymreig Dragon.

Cynhwysion
  • 125g Menyn Hallt Cymreig Dragon
  • 100g Siwgr brown
  • 75g Siwgr gwyn
  • 1 Wy
  • 300g Blawd Codi
  • ½ tsp Powdr Codi
  • ½ tsp Bicarb
  • 100g Darnau Siocled
  • 200g “Mini Eggs” (wedi malu)
  • 50g “Mini Eggs” (cyfan)
Dull
  1. Curwch y menyn a’r siwgr efo’i gilydd.
  2. Ychwanegwch yr wy a parhewch i gymysgu.
  3. Ychwanegwch y blawd, powdr codi, bicarb a cymysgwch nes mae’n ffurfio toes.
  4. Cymysgwch y siocled a’r “mini eggs” i mewn i’r does nes maent wedi eu dosbarthu’n dda.
  5. Pwyswch y does allan i beli oddeutu 100g, unwaith mae’r does mewn peli ychwangegwch y “mini eggs” cyfan i’r peli. Yna gosodwch y peli toes yn y rhewgell am oddeutu 30 munud.
  6. Gosodwch wres y popty i 200C ne 180C fan.
  7. Unwaith mae’r peli toes wedi oeri digon, gosodwch allan are ich tin pedwar ar y tro, pwyswch pob pelan i lawr ychydig cy neu pobi am 12-14 munud.
  8. Unwaith mae’r cwcis wedi coginio, gadewch i oeri.
  9. Mwynhewch!
Rhannwch y swydd hon ar eich hoff rwydwaith cymdeithasol!
Facebook
Twitter
LinkedIn