Cawl Cig Oen Cymreig Traddodiadol

DSZ_7474

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

    • 400g ffiled gwddw cig oen Cymreig
    • 2 lwy de blawd plaen
    • 3 taten fawr
    • 3 moron
    • ½ rwdan
    • 1 panas mawr
    • 1 cennin mawr
    • Dwr
    • Olew
    • Halen a pupur

     

    I weini:

    • Bara ffres
    • Caws aeddfed Cymreig Dragon

     

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

  1. Sesnwch y blawd gyda’r halen a pupur, gan orchuddio y cig oen yn y blawd.
  2. Mewn sospan fawr, gwresogwch yr olew nes ei fod yn boeth. Ychwanegwch y cig oen a coginiwch am 4-5 munud, gan ei droi drwy’r adeg.
  3. Trowch y gwres i lawr, ac ychwanegwch 1.5 ltr o ddwr. Ychwanegwch y llysiau wedi’i giwbio.
  4. Rhowch gaead ar y sospan a’i adael i simro am 90 munud.
  5. Ychwanegwch y cennin cyn coginio ymhellach am 30 munud.
  6. Sesnwch a blaswch.
  7. Gweinwch gyda bara ffres a tamad o gaws aeddfed Cymreig Dragon.

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?