Pitsa Pedwar Caws

FourCheesePizza(a)_Handcrafted

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

  • 400g blawd plaen
  • 7g burum sych
  • 1 llwy de halen
  • 1 llwy de siwgr caster
  • 2 lwy fwrdd olew
  • 1 llwy fwrdd polenta
  • Saws tomato

Topio’r pizza gyda:

  • Caws o Geudwll a Wisgi Penderyn gyda olewydd gwyrdd
  • Caws Cymreig o Geudwll Llechen gyda Pepperoni
  • Caws Halen Mon gyda Tomatos bach a Phupur Gwyrdd
  • Caws Aeddfed wedi ei Gochi a Gwinleon gyda Nionyn coch

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

  1. Cynheswch y popty i 240°C / 220°C ffan / nwy 9. Rhowch eich tyniau neu garreg pizza yn y popty hefyd i gynhesu.
  2. Cymysgwch y blawd, halen, siwgr a burum mewn powlen, gwnewch dwll yng nghanol y cymysgedd blawd, yna ychwanegwch 225ml o ddwr, cymysgwch nes y maen ffurfio toes. Tolltwch y does allan ar wyneb gweithio sydd wedi gael ei iro gyda blawd, tylinwch eich toes, am funud. Gadewch y does i orffwys o dan powlen sydd wedi cael ei roi wyneb i waered, tra y byddwch yn paratoi eich cynhwysion topio.
  3. Fedrwch rwan siapio eich toes, roliwch y does neu ei siapio gyda’ch dwylo i siap disg, oddeutu 25cm.
  4. Torrwch ddarn mawr o bapur pobi a’i orchuddio gyda polenta, rhowch eich toes ar y papur, a’i siapio ymhellach i oddeutu 30cm.
  5. Gorchuddiwch eich pizza gyda’r saws tomato, ac yna eich cynhwysion topio, gan roi caws gwahanol ym mhob chwarter o’r pizza.
  6. Sleidiwch eich pizza ar eich tuniau sydd wedi eu cynhesu yn barod ac eu pobi am 10-15 munud.

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?