Palmiers tomato a teim efo meiones caws a chennin syfi

South Caernarfon Creameries food photoshoot

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

Ar gyfer y Palmiers

  • 500g o grwst pwff parod
  • Blawd plaen i rolio jar
  • 280g o domatos heulsych wedi’i ddraenio a wedi’u dorri’n fân
  • Ychydig o sbrigiau o teim ffres, wedi’i dorri’n fan
  • Un wy wedi’i guro’n ysgafn

Ar gyfer y Meiones

  • 3 melynwy
  • 50g o caws aeddfed, wedi’i gratio
  • 2 llwy de o mwstad Saesneg
  • 1 llwy fwrdd o finegr seidr
  • 50g cennin syfi wedi dorri’n fân
  • 500ml o olew blodyn haul Halen a Pupur

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

  1. Rhowch y crwst pwff parod ar y blawd plaen a’i daro efo rolbren. Fel arfer mae angen bod yn eithaf gofalus hefo crwst pwff oherwydd mae o angen codi, ond i’r rysáit yma tydio mond angen codi ychydig bach.
  2. Rholiwch y crwst pwff i mewn i betryal tua 30 x 35cm/12 x 14in trwch darn £1.
  3. Lledaenwch y tomatos dros y crwst pwff ac yna ysgeiniwch y teim.
  4. Hefo pen byrraf y petryal yn gwynebu chi, rholiwch y ddau ochr hir i gyfarfod yn y canol. Yna golchwch y crwst pwff dros y canol efo’r wy i ludo’r ddau hanner efo’i gilydd. Yna codwch yn ofalus i mewn i hambwrdd pobi ai osod yn yr oergell am 30 munud i oeri a chaledu.
  5. Cynheswch y popty i 200C/400F/Gas 6.
  6. Symudwch y rôl o’r oergell, defnyddiwch cyllell finiog i dorri’r rholyn mewn i sleisys 1cm/1⁄2in o drwch.
  7. Rhowch bob darn ar yr hambwrdd pobi a rhowch frwsh ysgafn i bob un efo’r wy. Rhowch y palmiers yn y popty am 10-15 munud nes eu bod yn liw brown euraidd. Tynnwch y palmiers allan o’r popty a gadewch i oeri

Y Meiones

  1. Rhowch y melynwy i mewn i proseswr bwyd efo’r caws, mwstard, finegr a chennin syfi.
  2. Blendiwch am 1 funud, yna adiwch yr olew yn slo fel mae’ r proseswr yn rhedeg.
  3. Unwaith mae’r olew wedi cymysgu, stopiwch yr proseswr ac adiwch ychydig o halen a phupur i adio mwy o flas.
  4. Rhowch y meiones mewn i jar sydd yn selio.
  5. Yna rhowch yn yr oergell tan fod chi’n barod yw defnyddio.

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?