Dewislen
Hafan
Ein Cawsiau
Ein Treftadaeth
Ein Ffermwyr
Siopau sy’n Gwerthu
Siop
Ryseitiau
Blog
Eich Cwestiynau
Fy Nghyfrif
Cysylltwch â Ni
Hafan
Ein Cawsiau
Ein Treftadaeth
Ein Ffermwyr
Siopau sy’n Gwerthu
Siop
Ryseitiau
Blog
Eich Cwestiynau
Fy Nghyfrif
Cysylltwch â Ni
Hufenfa De Arfon,
Rhydgwystyl, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SB
Ffôn
01766 810251
English
Cymraeg
£
0.00
0
basket
Cheddar Cymreig a Pizza Tomato
Cam wrth Gam
CYNHWYSION RYSÁIT
Ar gyfer y does;
400g blawd plaen
Pecyn 7g o furum sych
1 llwy de o halen mor
1 lwy de siwgr caster
2 lwy fwrdd olew
2 lwy fwrdd o ddwr cynnes
1 llwy fwrdd o flawd plaen
Saws
1 llwy fwrdd o olew
½ nionyn
1 clof garlleg
200g tin tomato
1 llwy fwrdd piwre tomato
Basil ffres
1 llwy de siwgr brown
Pinsiad o halen
Topins
200g Caws Aeddfed Dragon
Basil ffres
CYFARWYDDIADAU RYSÁIT
Cynheswch y popty, 240°C / 220°C, rhowch eich tuniau neu cerrig pitsa i mewn i gynhesu.
Cymysgwch y blawd, halen, siwgr a burum efo’i gilydd mewn powlen. Gwnewch ffynon yn y canol ac ychwanegwch 225ml o ddwr, cymysgwch i wneud toes.
Arllwyswch y does allan ar wyneb sydd wedi ei orchuddio a blawd. Gadwech i orffwys o dan bowlen ben ei waered, tra eich bod yn paratoi’r saws.
Ar gyfer y saws; dros wres isel cynheswch yr olew mewn sospan, gan ychwangegu’r nionyn a halen, a ffrio yn ysgafn am 15 munud.
Ychwangegwch y garlleg a ffrio am funud arall, yna ychwanegwch y tin tomato a piwre a’r siwgr. Dewch ag e i ferwi cyn troi y gwres i lawr.
Simrwch y saws am 30 munud neu ne sei fod yn twchu. Cymysgwch y basil i mewn a gosod y saws i un ochr.
Newch cewch siapio y does, fe allwch rolio neu siapio’r does gyda llaw i siap disg tua 30cm mewn diamedr.
Torwch damed mawr o bapur pobi gyda ychydig o flawd arno cyn rhoi y does ar y papur.
Parhewch i siapio’r does nes ei fod tua 35cm mewn diamedr.
Lledaenwch y saws ar y does ac yna’r caws a’r basil.
Gallwch nawr rhoi y pitsa ar y tuniau cynnes a pobi am 10-15 munud nes fod y caws wedi toddi a’r does wedi coginio ac yn euraidd.
Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?
Caws Cymreig Aeddfed
Buy Now
Prev
Blaenorol
Lasagne Llysiau Rhost
Nesaf
Tatws Trwy’i Siaced Caws a Ffa
Next