Brechdan ‘Philly Cheesesteak’

Philly-Cheesesteak-Sandwich-Medium

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

CIG
Defnyddiodd Chris gig Brisket oer oedd wedi cael ei gochi dros ‘cherry wood’ efo cymysgedd o berlysiau a speisys. Gallwch ddefnyddio unrhyw gig sydd ganddo chi ar gael.

SALSA
Pupur Melys Tomato Nionyn Tsili gwyrdd Bwlb Garlleg Olew Olewydd

SAWS CAWS
50g Menyn Hallt Dragon Blawd plaen 80g Caws Dragon Handcrafted wedi’i gochi a gwiniolen 100g Caws Clasurol efo cennin Llefrith

BARA
400g blawd plaen cryf 1 llwy de o halen 1 llwy fwrdd o siwgr 7g paced o furum parod 2 llwy fwrdd o olew olewydd 300ml dwr cynnes

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

Rhowch y cig mewn padell ffrio ac ychwanegu saws poeth o’ch dewis a mel. Gwnewch yn siwr fod y cig i gyd wedi’i orchuddio yn y saws cyn ei goginio ar y bbq. (os nad ydych yn defnyddio BBQ gallwch ei goginio yn y popty.

SALSA
Rhowch y llysiau yn syth ar y charcoal nes ei fod wedi’i golosgi drosto (gallwch hefyd ei olosgi ar hob nwy neu ei rostio ar dymheredd uchel) Pan fydd y llysiau wedi golosgi, gadwch iddynt oeri cyn eu torri’n fân. (tynnwch y darnau du oddai ar y nionod a tynnu o’i groen. Tynnwch y garlic o’i groen hefyd) Cymysgwch mewn powlen efo Olew Olewydd a halen a pupur.

SAWS CAWS
Gwnewch ‘roux’ drwy doddi’r menyn mewn sosban, ychwanegu blawd a’i gymysgu. Gwnewch ‘roux’ drwy doddi’r menyn mewn sosban, ychwanegu blawd a’i gymysgu. Ychwanegwch lefrith fesul dipyn a chario mlaen i chwisgio nes fod y saws yn twchu Tynnwch y gymysgedd oddi ar y gwres ac ychwanegu’r caws Ychwanegwch Halen a pupur

BARA
Cymysgwch y cynhwysion i gyd mewn powlen Pan fydd y gymysgedd wedi ffurfio toes, dylinwch ar arwyneb wedi’i orchuddio efo blawd am ychydig funudau Rhowch mewn powlen, gorchuddiwch efo cadach llestri/cling ffilm a’i adael i orffwys am 10 munud Roliwch y bara allan a’i goginio mewn popty pitsa neu yn y popty ar 230C tan ei fod yn grimp Gweinwch y saws caws ar ben y bara gan ychwanegu’r cig a’r salsa Mwynhewch!

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?