Rarebit Cymreig

HyperFocal: 0

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

  • 225g Caws Clasurol Dragon, wedi gratio 
  • 1 llwy fwrdd Menyn Hallt Cymreig Dragon 
  • 2 llwy de Saws Worcestershire 
  • 1 llwy de powdr mwstard 
  • 2 lwy de o flawd plaen 
  • Pupur du 
  • 4 llwy fwrdd o gwrw Cymraeg 
  • 4 tafell bara teigr, wedi ei dostio ar un ochr 
  • 4 tafell o facwn 
  • 2 wy wedi ffrio 

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

  1. Mewn sospan ychwanegwch y caws, saws Worcestershire, powdr mwstard, blawd a pupur du. 
  2. Cymysgwch yn dda cyn ychwanegu’r cwrw. (gallwch ddefnyddio llefrith yn lle’r cwrw.) 
  3. Dros wres isel, trowch y cymysgedd nes bod y cynhwysion i gyd wedi toddi ac yn edrych fel past trwchus. Cadewch y gymysgedd i oeri. 
  4. Tra bydd y gymysgedd yn oeri tostiwch y bara ar un ochr, a choginiwch y bacwn a’r wyau, a’u gosod i un ochr. 
  5. Lledaenwch y gymysgedd rarebit dros y bara ar yr ochr sydd heb ei dostio
  6. Coginiwch rhain o dan y gril nes eu bod yn euraidd ei liw. 
  7. Gosodwch y bacwn a’r tost gyda’i gilydd gan orffen gyda’r wy ar ei dop. 

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?