Cwestiynau a ofynnir yn aml

A yw eich caws yn addas i'w rewi?

Fe allwch rewi ein caws. Gall rhewi newid gwead y caws a’i wneud yn friwsianllyd, argymhellwn eich bod yn gratio y caws yn gyntaf i gadw ei flas gwych! Ar ôl ei rewi, yn ddelfrydol dylid defnyddio’r caws o fewn 3 mis.

A oes modd ailgylchu eich deunydd pacio?

Rydym yn chwilio am gyfleoedd ac opsiynau posib i ailgylchu. Nid yw’r pecyn yn addas i’w ailgylchu a gasglir wrth y drws, ond gellir ei ailgylchu mewn canolfannau ailgylchu plastig meddal. Dowch o hyd i’ch canolfan leol yma.

A yw eich caws yn addas ar gyfer llysieuwyr?

Mae ein holl gawsiau’n cael eu gwneud gan ddefnyddio rennet llysieuol ac felly maent yn addas ar gyfer llysieuwyr.

Fodd bynnag, er nad yw ein Cheddar o’r ceudwll gyda Wisgi Penderyn yn defnyddio cynnyrch sy’n anaddas ar gyfer llysieuwyr yn uniongyrchol, mae’r wisgi’n cael ei storio mewn casgenni trydydd parti sydd â’u prosesau eu hunain, felly ni allwn warantu bod y cheddar penodol hwn yn addas ar gyfer llysieuwyr.

Ble mae eich caws yn cael ei wneud?

Mae ein holl gawsiau blasus yn cael eu gwneud gan ein gwneuthurwyr caws arbenigol penigamp yn ein hufenfa ym Mhen Llŷn gan ddefnyddio llaeth Cymreig gan ein haelodau, 154+ o ffermwyr cydweithredol.

DSC_1419

O ble mae'r llaeth a ddefnyddir i wneud eich caws dod?

Mae’r holl laeth a ddefnyddiwn i wneud ein caws blasus brand Dragon yn dod o’n ffermydd ymroddedig ledled Cymru sy’n aelodau o’n cwmni cydweithredol. Mae ganddynt gyfranddaliadau yn y busnes ac mae pob fferm gyda thystysgrif Tractor Coch.

A yw eich caws wedi'i wneud â llaeth wedi'i basteureiddio?

Ydi, mae’r caws i gyd yn cael ei wneud gyda llaeth wedi’i basteureiddio.

Pa gynhwysion sy'n cael eu defnyddio i wneud eich caws?

Gwneir ein caws i gyd gan ddefnyddio 100% o laeth gwartheg Cymreig ac ychwanegir rennet llysieuol, meithrinydd cychwynnol a halen. Mae angen y rhain i gyd i wneud caws.

A yw eich caws yn rhydd o gnau?

Ydi, ni welwch unrhyw gnau yn unrhyw un o’n cawsiau. Mae ein safleoedd gweithgynhyrchu a phacio i gyd yn rhydd o gnau.

A yw eich caws yn ddi-glwten?

Yndi, mae ein holl gynnyrch yn naturiol yn ddi-glwten.

Ble alla i brynu Caws Dragon?

Gallwch brynu pecyn o Dragon yn  Tesco, ASDA, Morrisons, M & S a nifer o sorfeydd annibynnol ledled Cymru. Ewch i weld ein map o siopau am fwy o wybodaeth.

Dod o hyd i siop

Sut mae y dosbarthu'n gweithio?

Bydd archebion yn cael eu danfon yn ffres o’r hufenfa pob dydd Iau ar gyfer dosbarthiad dydd Gwener. Er mwyn sicrhau bydd yr archeb yn cael eu danfon y diwrnod wedyn rhaid i archebion cael eu derbyn erbyn 3yh ar ddydd Mercher. Isafswm archebion £15.00 – Dosbarthu £5.95

van in loading and unloading commercial cargo in warehouse dock

Sut mae fy archeb yn cael ei danfon?

Mae ein holl archebion yn cael eu pacio yn yr hufenfa ac yn cael eu casglu gan DHL bob dydd Mercher ar gyfer danfoniad diwrnod nesaf.

 

Mae pob parsel yn cael ei becynnu gan ddefnyddio pecynnau wedi’i rheoli gan dymheredd a phecynnau ia, gan gynna y cynnwys ar dymheredd sefydlog trwy gydol y broses ddosbarthu.

Paper-Liner-Shipping-Box