Bwyd Cysurus ar gyfer Mis Ionawr Iach

Ydi bwyta'n iach yn rhan o'n aduniadau blwyddyn newydd?

Bwyd Cysurus ar gyfer Mis Ionawr Iach

Mae’n ddechrau blwyddyn newydd unwaith eto. Amser i ddechrau o’r newydd wrth i ni groesawu blwyddyn newydd arall, beth yw eich addunedau chi ar gyfer 2026?

Mae bwyta’n iach fel arfer yn rhif 1 ar restr pawb, rydyn ni i gyd wedi mwynhau twrci, caws, siocledi ac ati dros gyfnod y Nadolig. Yn y DU mae tua 60% ohonom wedi dweud bod bwyta’n iachach yn un o’n haddunedau blwyddyn newydd ar gyfer 2026, gyda cholli pwysau ac ymarfer corff nesaf ar y rhestr.

Mae Cheddar yn cynnig maeth buddiol pan yn rhan o ddeiet iachus.

 

Mae caws yn cynnig cymaint o fuddion maethol;

  • Maethlon: Mae caws cheddar yn cynnwys calsiwm sy’n dda ar gyfer iechyd eich esgyrn a’ch dannedd, protein ar gyfer cynnal a chadw cyhyrau, a fitamin B12 ar gyfer egni a swyddogaeth imiwnedd.
  • Iechyd y Coluddyn: Gall caws cheddar aeddfed gynnwys probiotegau byw, mae’r bacteria buddiol hwn yn cynorthwyo tuag at goluddyn iach

 

Syniadau rysáit;

Taten Pôb, ffa pôb a chaws

Rysáit hawdd a syml sy’n wych wrth geisio bwyta ychydig yn iachach, p’un a ydych chi eisiau cinio cyflym neu geisio gwneud y tatws siaced yn y popty araf ar gyfer pan fyddwch chi’n cyrraedd adref o’r gwaith!

Maeth;

Tatws – carbohydrad cymhleth sy’n ffynhonnell wych o ffibr, yn help i’ch cadw yn llawn am amser hir

Ffa – un o’ch 5 y dydd ac yn llawn maetholion iach ac yn llawn maeth

Caws Cheddar – protein, calsiwm a fitamin B12 yn bwysig ar gyfer egni a esgyrn iach

 

****

 

Cawl Traddodiadol Cymreig

Mae’r rysáit hon yn hanfodol mewn llawer o gartrefi Cymru ac yn berffaith ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn, nid yn unig yn gynnes ac yn gysurus ond hefyd yn llawn llysiau maethlon.

Pam ei fod yn dda i chi:

  • Uchel mewn protein, da ar gyfer iechyd a thwf cyhyrau
  • Fitaminau a maetholion – mae cig oen yn ffynhonnell wych o haearn, a digon o fitaminau o’r llysiau
Rhannwch y swydd hon ar eich hoff rwydwaith cymdeithasol!
Facebook
Twitter
LinkedIn