Gosodwch y tatw mewn sospan fawr, gorchuddiwch gyda dwr oer a halen. Codwch i ferwi a coginio am 15 munud nes yn feddal.
Tra bod y tatw yn coginio, dros wres isel cynheswch yr olew mewn padell. Ychwanegwch y cennin a nionyn a ffriwch am 15 munud nes eu bod yn feddal. Ychwanegwch y bacwn a’i goginio am oddeutu 5 munud nes ei fod yn frown.
Ildiwch y tatw a’u stwnsio gyda’r menyn a’r llaeth.
Ychwanegwch yr wyr a cymysgwch.
Cyfunwch y gymysgedd gyda’r cennin, paprica a hanner y caws.
Arllwyswch y gymysgedd i ddysgl wedi’i iro.
Taenellwch gweddil y caws ar ei ben a pobwch am 45 munud, nes ei fod yn euraidd.