Tapas Nadolig

DSC_3364 (Large)

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

Ar gyfer gwneud y skewers;

  • 16 skewer
  • 16 ciwb bach o Cheddar Clasurol a Chennin
  • 16 ciwb bach o Cheddar o geudwll
  • 16 ciwb bach o Caws gyda Wisgi Penderyn
  • 8 pupur melyn wedi ei grilio a thorri mewn sgwariau
  • 16 olewydd gwyrdd
  • Dail basil

Croquettes;

  • 4 shibwn wedi’i sleisio’n fân
  • 4 llwy fwrdd o datws stwnsh
  • 90g caws clasurol efo cennin wedi’i gratio
  • Mymryn o saws ‘tobasco’
  • 100g briwsion bara ‘panko’ wedi’i cymysgu efo llwy de o paprica wedi’i fygu
  • 2 llwy fwrdd o flaw defo pinsiad o bowdr tsili
  • Olew olewydd
  • Wy wedi’i guro efo halen

I wneud baguettes;

  • Ham parma
  • Cheddar Aeddfed Dragon
  • Chery tomatoes
  • Dail Basil
  • Olewydd

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

I wneud y skewers;

  1. Thrediwch y ‘sgiwars’ efo’r 3 caws gwahanol efo’r cynhwysion eraill bob yn ail rhyngthyn nhw
  2. Ychwanegwch eich cynhwysion eich hunain fel nionod coch wedi’i rhostio
  3. Rhowch y caws wisgi ar y sgiwar ola am ei fod yn friwsionog
  4. Gallwch eu paratoi o flaen llaw a’i cadw yn yr oergell

I wneud y croquettes;

  1. Cymysgwch y tatws stwnsh, nionyn a’r caws cyn ychwanegwch y saws tobasco.
  2. Roliwch y gymysgedd mewn i beli bach yr un maint a rhowch i un ochr.
  3. Paratowch 3 plat er mwyn gorchuddio’r croquettes: blawd efo powdr tsili, wy wedi’i guro a briwsion bara.
  4. Rholiwch y peli yn y blawd, yna’r wy a’r briwion bara yn olaf.
  5. Rhowch ar bapur pobi i osgoi’r peli lynu efo’i gilydd.
  6. Ar ol gwneud y peli i gyd, gorchuddiwch mewn olew olewydd a’i pobi mewn popty poeth, 180C, gas 6 am tua 15 munud tan eu bod yn frown euraidd a poeth.
  7. Peidiwch a poeni os ydi’r croquettes yn torri, mi fydda nw yr un mor flasus!
  8. Gweinwch efo saws tsili melys.

I wneud y Baguettes;

Gallwch ddefnyddio unrhyw gynhwysion yr ydych eisiau i wneud baguettes ond rydym yn awgrymu, rolio caws aeddfed mewn parma ham gyda dail basil, neu tomato gyda chaws aeddfed wedi gratio ac olewydd.

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?