Browni a Blondi

HyperFocal: 0

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

CynhwysionAr gyfer y Brownis

  • 185g Menyn Hallt Cymreig Dragon (wedi’i dorri mewn ciwbiau)
  • 185g Siocled Tywyll
  • 85g Blawd Plaen
  • 40g Powdr Coco
  • 3 ŵy mawr
  • 275g Siwgr Caster
  • 50g Siocled (milk) (wedi’i torri)
  • 50g Siocled Gwyn (wedi’i torri)

Ar Gyfer y Blondis

  • 225g menyn hallt Cymrieg Dragon
  • 200g siocled gwyn (wedi’i dorri)
  • 175g blawd plaen
  • ½ lwy de powdr codi
  • 200g siwgr brown meddal ysgafn100g siwgr caster
  • 3 ŵy mawr
  • 2 lwy de o rhin fanila
  • ¼ lwy de o halen

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

  1. Cynheswch y popty i 180°C / 160°C Fan / Marc Nwy 4.
    Irwch a leiniwch dwy din 21cm sgwar gyda menyn a phapur pobi
  2. Paratowch y gymysgedd blondi. Rhowch y menyn Dragon mewn powlen gyda 100g o siocled gwyn, ar sosban o ddwr poeth ar wres isel nes bod y siocled a’r menyn wedi toddi, trowch y gymysgedd pob hyn a hyn. Gadewch y gymysgedd i oeri.
  3. Cyfunwch y blawd, powdr codi a halen efo’i gilydd mewn powlen.
  4. Wisgiwch yr wyau a’r siwgr efo’i gilydd nes ei fod wedi ei ddwblu mewn maint ac yn ysgafn.
  5. Cymysgwch y fanila gyda’r cymysgedd siocled cyn ei ychwanegu at y gymysgedd wyau. Cymysgwch hwn wedyn yn ofalus mewn patrwm ffigwr wyth.
  6. Yna gyda gogr rhowch y gymysgedd blawd i mewn a’i gymysgu’n ofalus, adiwch y gweddill o’r siocled gwyn a’i gymysgu. Rhowch y cymysgedd i un ochr.
  7. Paratoi’r Cymysgedd Browni
    Rhowch y menyn hallt cymreig Dragon mewn powlen gyda’r siocled tywyll wedi’i dorri.
  8. Yna rhowch y powlen dros sosban fach o ddwr poaeth, gwnewch yn siwr nad ydi’r powlen yn cyffwrdd y dwr. Rhowch y sosban dros fflam isel, nes mae’r siocled a’r menyn wedi toddi. Cymysgwch pob hyn a hyn. Neu, gallwch doddi’r siocled a’r menyn mewn powlen yn y meicrodon, wedi’i orchuddio gyda ‘clingfilm’ ar wres uchel am ddau funud.
  9. Unwaith y mae’r siocled a’r menyn wedi toddi gadewch i oeri.
  10. Mewn powlen rhowch y blawd a’r powdr coco drwy’r gogr.
  11. Mewn powlen fawr arall, gyda wisg, wisgiwch yr wyau a’r siwgr efo’i gilydd nes ei fod wedi dwblu mewn maint ac yn olau ei liw ac yn ysgafn, gall hyn gymryd o 3-8 munud. Yna tolltwch y gymysgedd siocled i mewn a’i droi yn ofalus heb gael gwared o’r aer.
  12. Dorwch y blawd unwaith eto drwy’r gogr ac i mewn i’r gymysgedd, cymysgwch yn ofalus mewn patrwm ffigwr wyth. Cymysgwch y darnau siocled i mewn.
  13. Rhowch at ei gilydd
  14. Arllwyswch yr un faint o’r ddau gymysgedd i’r tuniau parod sy’n troi o gwmpas i greu effaith marmor.
    Pobwch yng nghanol y popty am 25 munud. Os bydd y brownie yn ysgwyd yn ei ganol ar ol 25 munud, pobwch am 5 munud arall, nes bod y brownie yn dechrau dod oddi wrth yr ochrau.
  15. Gadewch y brownie yn ei dun i oeri, yna torrwch mewn i’r siap yr hoffech, gallwch ddefnyddio torrwr siap calon.

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?