400g o stec filed wedi’i sleisio’n stribedi tenau Wisgi Penderyn 2 lwy fwrdd o olew olewydd Cnau Ffrengig wedi’i hanneru Mêl Cymreig 120g cheddar Penderyn Dragon wedi’i friwsioni 3 Llond llaw o ddail salad wedi’i golchi (letis Baby gem, chard neu sbigoglys)
DRESIN:
2 lwy fwrdd o olew olewydd 1 llwy fwrdd o sudd lemon 1 llwy fwrdd o fêl
Marineiddiwch y stribedi cig Eidion yn y wisgi am 2 awr neu dros nos Rhowch y cnau Ffrengig mewn powlen a’i gorchuddio mewn haen denau o fêl Taenwch y cnau a’r dun pobi wedi’i orchuddio mewn papur pobi a’i rhostio mewn popty poeth tan yn frown euraidd a chrimp. Gadwch iddynt oeri Coginiwch y cig Eidion yn yr olew a’i goginio tan mae at eich dant chi (2-3 munud) Gorchuddiwch y dail salad yn y dresin a’i roi ar y plat gweini Rhowch y cig eidion, y cnau a’r caws ar ben y cyfan a’i weini’n syth