Peli Cig Oen Gyda Briwsion Caerffili

SCCreameries070 - Copy web

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

SAWS
• Tun mawr o tomatos wedi’u torri
• 600g carton o passata
• 200ml gwin coch
• 1/2 llwy de powdr tsili
• 1 llwy de paprica wedi’i gochi
• 4 llwy fwrdd o ‘glaze’ balsamig
• 2 llwy fwrdd oregano ffres, wedi’i dorri

TOPIN
• 200g Caerffili Dragon
• Dail basil ffres wedi’i rwygo

PELI CIG
• 500g briwgig cig oen heb lawer o fraster
• 1 nionyn coch, wedi’i dorri’n fân
• 2 llwy fwrdd olew olewydd
• 2 ewin garlleg, wedi’u malu’n fân
• 1 wy mawr, wedi’i guro
• 2 llwy fwrdd briwsion bara ffres
• Oregano sych
• Halen môr a phupur du

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

1. Cynheswch y popty i 180˚C
2. Dechreuwch trwy wneud y peli cig. Cyfunwch yr holl gynhwysion peli cig ac eithrio’r wy a’u cymysgu gyda’i gilydd yn dda. Ychwanegwch wy wedi’i guro i rwymo’r gymysgedd
3. Rholiwch beli cig i mewn i tua 18 a dwstio’n ysgafn gyda blawd. Rhowch yn yr oergell i oeri am ychydig o funudau
4. Ffriwch y peli cig mewn olew olewydd i’w selio a’u rhoi mewn dysgl pobi fawr
5. Arllwyswch unrhyw olew dros ben o’r badell, yna ychwanegwch y tomatos wedi’u torri a’r pasata
6. Ychwanegwch weddill y cynhwysion a dewch â’r cyfan i’r berw, a rhoi halen a phupur i flasu
7. Arllwyswch y saws dros y peli cig a gorchuddiwch y ddysgl gyfan gyda ffoil
8. Pobwch am 1 awr, tynnwch y ffoil a thaenwch gyda’r Caerffili, trowch y popty i fyny’n uchel a’i bobi nes bod y topin wedi toddi ac yn euraidd
9. Gwasgarwch ddail basil ar ei ben a weini gyda phasta neu datws stwnsh

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?