250g Tatws, wedi’i plicio 75g cheddar Dragon Halen Môn 120g blawd plaen ½ wy, wedi’i guro’n ysgafn Halen Môr Môn Pupur du
Torrwch y tatws mewn darnau cyfartal a’u berwi mewn dwr hallt tan yn dyner, draeniwch. Stwnsiwch y tatws a’u rhoi i’r ochr i oeri Cyfunwch y tatws efo’r blawd, cheddar a’r wy a’u hel yn un toes cadarn. Tylinwch am 1 munud. Rholiwch y gnocchi mewn i silindrau hir, torrwch mewn i ddarnau bach 2cm. Dewch a sosban fawr o ddwr hallt i’r berw a choginiwch y gnocchi am tua 2 funud, neu pan fydda nhw’n codi i arwyneb y sosban. Draeniwch, cyfunwch efo ‘chydig o fenyn Dragon a olew olewydd a’i gweini efo dail basil ffresh a salad gwyrdd