Crymbl Afal, Mwyar Duan a Caws Coch Cymreig

WelshRedAppleBlackberryCrumblePie_Frame4_LR

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

  • 1 ½ tin o lenwad pastai afal a mwyar duon 
  • 1 tafell o does crwst brau o parod 
  • ½ pecyn o gymysgedd crymbl 
  • 100g Caws Coch Cymreig o Geudwll, wedi gratio 

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

  1.  Cynheswch y popty i 170°C 
  2. Gosodwch y does mewn tin pastai 
  3. Er mwyn pobi yn ddall, rhowch dafell o bapur pobi ar ben y does gyda reis neu pys sych, pobwch yn unol a’r canllawiau ar y pecyn. 
  4. Unwaith byddwch wedi gwneud hyn, tynnwch y papur a’r pys neu reis, llenwch y crwst gyda’r llenwad afal a mwyar duon. 
  5. Paratowch y cymysgedd crymbl, a cymysgwch 100g o’r caws. Taenwch y gymysgedd ar ben y llenwad. 
  6. Pobwch am 20-30 munud, nes ei fod yn euraidd, a bod y llenwad yn byrlymu. 
  7. Mwynhewch y twist sawrus yma ar grymbl traddodiadol! 

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?