• Olew llysiau
• 6 tortilla corn, wedi eu chwarteru
• 2 glof garlleg
• 1 shibwn
• 1 llwy de cwmin
• 1 llwy fwrdd jalapenos wedi eu piclo
• 400g tomatoes wedi tori
• 400g ffa du
• Llond llaw o ddail coriander, wed’i torri
• 4 wy wedi ffrio
• 100g Caws Caerfilli
• Tsili gwyrdd, wedi ei dorri
• Saws tsili gwyrdd, i weini
• Saws tsili chipotle, i weini
1. Arllwyswch olew i badell hyd at hanner ffordd, cynheswch ar wres canolig/uchel. Er mwyn sicrhau fod yr olew yn boeth ac yn barod i’w ddefnyddio, ychwanegwch un darn o tortilla iddo, os bydd y tortilla yn dechrau ffrio mae’r olew yn barod. Ffriwch y darnau o tortilla 8 darn ar y tro am oddeutu 2-3 munud gan eu troi’n aml. Unwaith mae’r darnau tortilla yn barod, gososwch nhw ar blat gyda phapur arno.
2. Defnyddiwch un llwy fwrrd o’r olew mewn padell arall dros wres uchel, ychwanegwch y garlleg, a’r darn gwyn o’r shibwn a’u coginio am 1 munud nes eu bod wedi meddalu. Ychwanegwch y cumin a choginio am ychydig eiliadau. Yna ychwanegwch y jalapenos, tomatoes, ffa a coginiwch am oddeutu 5 munud, hyd nes mae’r gymysgedd wedi twchu.
3. Cymysgwch y tortilla a’r coriander i mewn i’r gymysgedd ffa a rhannwch i mewn i blatiau, ychwanegwch yr wy wedi ffrio, a taenellu y Caerfilli a gweddill y shibwn, gweinwch gyda saws tsili gwyrdd a saws tsili chipotle.