4 taten fawr (Maris Piper neu Kind Edward) 1 nionyn 1.5L o lefrith llawn 75g Caws Dragon wedi’i gochi
I WEINI
3 rashyr bacwn wedi’i fygu 50g Caws Dragon wedi’i gochi Bwnsiad bach o sifys Olew olewydd
Berwch y llefrith cyn ychwanegu’r tatws a’r nionyn, berwch nes eu bod yn feddal Ychwanegwch 75g o’r caws a’i flendio new yn llyfn. Ychwanegwch halen a pupur i’ch blas. Yn y cyfamser, coginiwch y bacwn yn y popty tan ei fod yn grimp. Gratiwch y 50g o gaws a’i goginio a’r bapur pobi am tua 5 munud tan ei fod yn euraidd ac yn grimp. Torrwch y sifys yn fân. Rhowch y sifys mewn prosesydd bwyd efo ‘chydig o olew olewydd i greu olew sifys. Gweinwch y cawl mewn powlen efo’r caws, bacwn a dropyn o’r olew sifys.