Ers pryd yda chi wedi bod yn ffermio yma?
Mae’r teulu yma ers tua 100 mlynedd
Ers faint yda chi’n aelod o’r hufenfa?
Dani’n aelodau ers 20 mlynedd bellach
Faint o wartheg sgyno chi?
135
Faint o gloch yda chi’n godro?
6 y bore a 4 y p’nawn
Hoff ran o’r swydd?
Troi’r anifeiliaid allan yn y gwanwyn wrth i’r tywydd wella
Cas swydd?
Testio am TB!
Be ydi dy hoff gaws? Wrth ein boddau efo’r caws wedi’i fygu a’r caws o’r ceudwll.