Caws Coch Cymreig o Geudwll, wedi aeddfedu yn ddyfn o dan ddaear yn ogofau Llechi llanfair.
Mae aeddfedu caws o dan ddaear yn broses sy’n ychwanegu gwir gymeriad i’r caws coch yma, ac o ganlyniad mae ganom gaws sydd a chymysgedd o flas dwys a chymleth. Gyda pob brathiad fe gewch symffoni o nodiadau melys, sawrus a chnau yn dawnsio ar hyd eich tafod. Mae ein Caws Coch yn arddangos harmoni o flasau uigryw sydd yn ddeleit i unrhyw selogion caws.
Gyda gwead agored, mae’r Caws Coch yma yn eich gwahodd i fwynhau ei haenau unigryw diddorol. Gyda nodweddion melys ysgafn, bron fel caramel, mae’n ychwanegu elfen moethus i’r caws. Yn euraidd ei liw mae’r Caws Coch yma’n arddangos gwir grefft a gofalrwydd sydd tu ol i wneud caws o’r fath.
Ar werth mewn pecynnau 200g.
Alergenau: Cynnwys Llefrith
Maeth
Gwerthoedd | fesul 100g |
---|---|
Egni kJ/kcals | 1653/399 |
Braster | 33.9g |
sy’n dirlawn | 21.1g |
Carbohydrad | 0.1g |
sy’n siwgr | 0.1g |
Protin | 23.8g |
Halen | 1.8g |
Manylion Storio
Cadwch y gaws mewn oergell ac wedi’i lapio am hyd at 5 diwrnod ar ol ei agor.
£4.00 – £36.00