Agorodd siop gyntaf Lidl GB ei drysau ym 1994 ac, bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae gennym bellach dros 800 o siopau a thair ar ddeg o ganolfannau dosbarthu rhanbarthol ledled Prydain Fawr sy'n cyflogi dros 22,000 o bobl. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu cynhyrchion o'r ansawdd uchaf posibl i'n cwsmeriaid am y prisiau isaf posibl, ac yn gweithio'n agos gyda'n cyflenwyr i wneud hyn yn bosibl. Rydym hefyd yn angerddol am gyrchu'n lleol lle bo hynny'n bosibl, ac mae tua dwy ran o dair o'n cynnyrch yn dod o gyflenwyr Prydeinig. Sefydlwyd brand Lidl yn yr Almaen ac mae wedi tyfu'n fawr i fod yn un o brif fanwerthwyr bwyd Ewrop.