Cafodd ein Cheddar o Geudwll Llechi Cymreig ei ddatblygu mewn partneriaeth gyda Ceudyllau Llanfair ger Harlech i ychwanegu dyfnder go iawn o flas i’n caws.
Wedi’i wneud i rysáit arbennig mae’r caws yn cael ei aeddfedu am o leiaf 11 mis.
Mae’r broses heneiddio draddodiadol hon yn digwydd mewn ogofâu mwyngloddio gwreiddiol, sydd wedi’u troi’n bwrpasol i fod yn ogofâu aeddfedu caws.
Mae’r broses hon yn ychwanegu nodweddion unigryw at flas a gwedd ein caws.
Cawsom ein hysbrydoli i ddatblygu caws llofnod a oedd yn gwella ein caws a’i wneud yn gynnyrch gwirioneddol flasus a gwahanol.
Mae ein Caws Cymreig o Geudwll Llechen yn nodweddiadol, gyda’i stori’n llawn hanes Cymru.