Mae gennym nifer o draddodiadau ar gyfer dathlu Dydd Gwyl Dewi yma yng Nghymru, o wisgoedd i fwydydd, ond o ble daeth y traddodiadau yma? Pha rai ydych chi’n eu dilyn?
Mae’r Cennin a’r Cennin Pedr yn ddau symbol o ddathlu Dydd Gwyl Dewi, ond pam? Y Cennin yw’r hynaf o’r ddau draddodiad, mae haneswyr yn credu fod Cennin wedi cael eu rhoi i filwyr y Tuduriaid er mwyn eu gwisgo ar Fawrth y 1af, fel dathliad o’r Saint. Mae son hefyd yn y 7fed Ganrif fod milwyr Cadwaladr Brenin Gwynedd wedi gwisgo Cennin fel arwydd o’i adnabod ar faes y gad.
Beth bynnag oedd y rheswm am ein cariad tuag at y cennin bellach mae wir yn flasus yn ein caws clasurol gyda chennin.
Mae’r Cennin Pedr bellach yn boblogaidd yma yng Nghymru, ac i ddathlu ar Fawrth y 1af, nol yn y 19eg Ganrif daeth y Cennin Pedr yn yn fwy poblogaid na’r cennin, gan i’r Cymro a Prif Weinidog Prydain David Lloyd George ddod yn hyddwyddwr o’r Cennin Pedr. Efallai bod eglurhad mwy syml gan fod y Cennin Pedr yn blodeuo yn y Gwanwyn cynnar, Mawrth 1af.
Mae Cymru efo nifer fawr o draddodiadau bwyd, a tydi Mawrth y 1af ddim gwahanol, gyda Chawl a chawl cennin a thatw, Bara Brith a chacenau cri yn boblogaidd.
Mae eleni yn unigryw gan i Dydd Gwyl Dewi, Mawrth y 1af hefyd fod yn ddiwrnod crempog, pam ddim gwneud y mwyaf o pob traddodiad a chynnwys ein caws clasurol gyda chennin yn eich crempogau sawrus!