@TheRareWelshBit – Kacie Morgan

Selsig Morgannwg Caws Emrallt o Geudwll Llechi Dragon gyda Picalili Dragon

Yn nes at risol neu croquette sawrus na selsig traddodiadol, nid yw selsig Morgannwg yn cynnwys unrhyw gig o gwbl.

Pan oedd dogni cig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, credir bod y selsig llysieuol Cymreig yn ddanteithfwyd poblogaidd. Yn draddodiadol, roedden nhw’n cael eu gwneud gyda briwsion bara, wyau, cennin a chaws Morgannwg a oedd yn cael ei wneud gyda llaeth o wartheg Morgannwg sydd bellach yn brin iawn. Fodd bynnag, mae eu gwreiddiau’n ymestyn yn ôl i’r 1850au, pan oedd George Borrow yn frwd dros fwyta selsig Morgannwg i frecwast yn Wild Wales.

Heddiw, gan nad yw caws Morgannwg ar gael bellach, mae Caerffili a Cheddar yn cael eu defnyddio yn ei le.

I roi tro syml ond blasus ar selsig Cymreig traddodiadol Morgannwg, mae fy rysáit yn defnyddio Cheddar Cymreig Emrallt o Geudwll Llechi Dragon, wedi’i gymysgu â chennin i arbed y drafferth o olchi, sleisio a ffrio cennin.

Mwynhewch eich selsig Morgannwg gyda Picl Picalili siarp Dragon a salad ochr crensiog, i gael byrbryd hydrefol cysurus.

Rysáit Selsig Morgannwg Caws Emrallt o Geudwll Llechi

Yn gwneud 8 selsigen

Cost y selsigen: 50c – 70c

Cynhwysion

  • 175g caws Emrallt Dragon, wedi’i gratio
  • 175g briwsion bara gwyn ffres
  • 2 lwy fwrdd persli ffres wedi’i dorri
  • ½ llwy de powdr mwstard
  • ¼ llwy de pupur
  • 2 wy canolig
  • 2 lwy fwrdd llaeth cyflawn
  • ¼ llwy de halen
  • Blawd plaen, i orchuddio
  • Menyn Hallt Dragon
  • 2-3 llwy fwrdd Picl Picalili a salad, i weini

 Dull

  1. Cyfunwch y caws, y 100g o friwsion bara ffres, y persli, y powdr mwstard, a’r pupur.
  2. Gwahanwch y melynwy oddi wrth y gwynwy, gan roi’r gwynwy i’r naill ochr. Curwch y melynwy gyda’r llaeth, a’i droi i mewn i’r cymysgedd briwsion bara. Defnyddiwch eich dwylo i gyfuno’r cymysgedd, gan ei rolio’n belen.
  3. Rhannwch y cymysgedd yn wyth darn, a rholiwch bob un i siâp selsigen, tua 3 modfedd o hyd. Gorchuddiwch nhw a’u hoeri am awr.
  4. Sesnwch y blawd plaen gyda’r halen, a gorchuddio pob ‘selsigen’ yn y blawd wedi’i sesno.
  5. Chwisgwch y gwynwy’n ysgafn nes ei fod ychydig yn ewynnog a gorchuddio pob selsigen, cyn rholio pob un yn y briwsion bara sy’n weddill.
  6. Cynheswch y menyn Dragon mewn padell ffrio drom a ffriwch y selsig yn fas dros wres ysgafn am 2-3 munud yr ochr, nes eu bod yn grimp ac yn euraidd drostynt.
  7. Gwnewch yr un fath eto i sicrhau eu bod wedi coginio drwyddynt gan goginio’r selsig am ryw 15 munud.
  8. Gweinwch gyda Picl Picalili Dragon, a salad ochr crensiog.

Nodiadau/Cyngor

Wrth gymysgu’r cynhwysion, anelwch at wead tebyg i does ag ansawdd sticlyd (yn hytrach na gwlyb).

  • Peidiwch â chael eich temtio i beidio ag oeri eich selsig Morgannwg; mae hyn wir yn helpu i glymu’r cynhwysion at ei gilydd.
  • Gallwch hefyd goginio eich selsig Morgannwg mewn ffrïwr aer am 12 munud, ond ni fyddant mor grimp nac euraidd.
  • Gallwch ddefnyddio llwy de o fwstard Seisnig yn lle’r powdwr mwstard os yw’n well gennych, ond bydd angen i chi guro’r mwstard gyda’r melynwy a’r llaeth, yn hytrach na’i ychwanegu at y cymysgedd briwsion bara.
  • Bydd selsig Morgannwg yn aros yn ffres am 1-2 ddiwrnod yn yr oergell, neu’n rhewi mewn cynhwysydd aerglos am 3-4 mis. Os ydyn nhw wedi rhewi, coginiwch nhw am 20-25 munud ar 180C/160C ffan/nwy 4.
Rhannwch y swydd hon ar eich hoff rwydwaith cymdeithasol!
Facebook
Twitter
LinkedIn