Dani’n edrych ymlaen at weithio efo rhai o fawreddion y byd coginio yn Nghymru. Dros y mis nesa mi fyddwn yn cyd-weithio efo rhai o’n hoff gogyddion i roi ysbrydoliaeth coginio, coginio byw ac i ateb llawer o’ch cwestiynau coginio ar hyd y ffordd.
Bydd pob rysait yn defnyddio caws Dragon, ac mae cyfle i chi ddangos eich creadigrwydd hefyd!
Byddwn yn cychwyn dydd Sadwrn yma efo Sam Lomas, a fydd yn cynnal ‘takoever’ ac yn coginio tarten betys môr, tatws a caws gan ddefnyddio caws Dragon Handcrafted wedi’i gochi a gwiniolen.
Dyma restr o gynhwysion os ydych am goginio efo Sam
CYNHWYSION
Caws Dragon Handcrafted wedi’i gochi a gwiniolen
Tatws
Bacwn
Betys Môr (gallwch hefyd ddefnyddio sbigoglys/Kale)
Menyn Dragon
Blawd
Halen/Pupur
Rhannwch eich ryseitiau efo ni gan ddefnyddio #TheBigCheese