Cyw Iar ‘Cordon Bleu’

WelshSlateCavernAgedCheddarChickenCordonBleua_LR1

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

  • 4 brest cyw iar
  • 4 sleis o ham
  • 100g sbigoglys
  • 200g Caws o’r ceudwll Dragon
  • Blawd Briwsion bara panco
  • Wyau

GRATIN CENNIN

  • 2 genhinen canolig
  • Briwsion bara panco
  • 200ml llefrith
  • 10g menyn hallt Dragon
  • 10g blawd
  • 50g Caws o’r ceudwll Dragon

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

  1. Curwch y cyw iar mor fflat a sydd bosib
  2. Ar ben bob brest cyw iar rhowch sleisen o ham, dail sbigoglys a 50g o’r caws.
  3. Roliwch y cyw iar rownd y llenwad, lapiwch yn dyn mewn ‘cling film’ a’i roi yn yr oergell neu’r rhewgell i’r cyw iar gadw ei siap tra’n coginio.
  4. Roliwch y cyw iar mewn blawd, yna wy cyn ei orchuddio yn y briwsion bara
  5. Coginiwch mewn padell nes fod pob ochor yn frown euraidd, gorffenwch goginio mewn popty 180C am 20 munud
  6. Gweinwch gyda broccoli wedi’i stemio, tatws newydd a’r gratin cennin.

GRATIN CENNIN

  1. Sleisiwch y cennin tua 1 modfedd a’u rhoi mewn dwr poeth am 1 munud i’w meddalu ychydig
  2. Cyfunwch y menyn a’r blawd mewn sosban fach ac ychwanegwch y llefrith yn araf i greu saws gwyn, ychwanegwch halen pupur a’r caws.
  3. Cymysgwch y cennin a’r saws efo’i gilydd a rhoi’r briwsion bara ar ben y cyfan, pobwch am 20-25 munud ar 180C

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?