Tarten cheddar, Betys Môr a Thatws Newydd

Smoky-Cheese-Bacon-and-Sea-Beets

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

Ar gyfer y Crwst…

  • 250g blawd plaen
  • 125g menyn hallt Dragon

Ar gyfer y Llenwad…

  • 150g bacwn wedi’i sleisio
  • 2 lond llaw o fetys môr
  • 150g tatws newydd, wedi’i berwi a’i torri
  • 125g caws Dragon Handcrafted wedi’i gochi, gwiniolen
  • 3 wy
  • 3 melynwy
  • ½ peint o hufen dwbl halen a pupur

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

  1. Gwnewch does mewn powlen (neu arwyneb glan) drwy gymysgu’r blawd, menyn a dwr efo eich dwylo.
  2. Rhowch flawd ar eich arwyneb coginio a rolio’r crwst allan yn hirsgwar.
  3. Plygwch yr hanner top i lawr i’r canol a plygwch yr hanner gwaelod i fyny i’r canol.
  4. Plygwch yr holl grwst yn ei hanner.
  5. Roliwch ac ail blygu 2 waith eto i gael digon o haennau.
  6. Lapiwch y crwst mewn papur gwrth saim a’i roi yn yr oergell am 20 munud.
  7. Ysgeintiwch flawd ar eich arwyneb a rolio’r crwst, digon i ffitio eich tun pobi (mae Sam yn defnyddio tun 23cm efo gwaelod rhydd)
  8. Rhowch y crwst yn eich tun pobi a’i bwsho mewn i’r corneli.
  9. Rhowch bapur gwrthsaim dros y crwst a’i lewni efo ffa pobi.
  10. Trimiwch unrhyw grwst dros ben dros ochrau’r tun.
  11. Pobwch y crwst am 15 munud ar 200C.
  12. Tynnwch y papur gwrthsaim a’r ffa pobi a’i bobi eto am 15 munud ar 160C

I wneud y llenwad

  1. Rhowch lwy de o olew olewydd mewn padell a ffrio’r bacwn nes yn grimp.
  2. Torrwch y tatws a’r cheddar mewn ciwbiau.
  3. Ychwanegwch y betys môr mewn i’r badell efo’r bacwn a’i goginio nes ei fod yn gwywo.
  4. Curwch y wyau mewn powlen efo’r hufen ac ychwanegu halen a pupur i flasu.
  5. Rhowch y cynhwysion sych i gyd yn y darten a tollti’r gymysgedd wy/hufen dros y cyfan.
  6. Pobwch am 30 munud ar 180C.
  7. Tynnwch allan o’r popty a’i adael i oeri am o leiaf 15 munud cyn ei fwynhau!

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?