Coginiwch y soch mewn sach yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn, a’u rhoi o’r neilltu.
Coginiwch y macaroni yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn, draeniwch nhw a’u rhoi o’r neilltu, gan gadw peth o’r dŵr coginio ar gyfer nes ymlaen.
Tra bod y macaroni yn coginio, toddwch 30g o fenyn hallt mewn sosban fawr wrthglud neu sgilet. Unwaith y bydd wedi toddi, trowch y blawd i mewn a’i guro i ffurfio roux, gan ei droi’n barhaus dros wres isel am ychydig funudau i goginio’r blawd.
Yn y cyfamser, cynheswch y llaeth mewn microdon neu mewn padell fach ar y stôf ac, unwaith y bydd yn boeth, cymysgwch ef yn raddol i mewn i’r roux ychydig ar y tro dros wres isel i ganolig, gan ei droi’n barhaus nes bod y llaeth i gyd wedi’i ychwanegu. Erbyn hyn, dylai fod gennych saws Béchamel hufennog.
Ychwanegwch y pot stoc cyw iâr a’i droi nes ei fod wedi hydoddi.
Tynnwch y sosban oddi ar y gwres ac ychwanegwch 75g Caws Platinum wedi’i gratio a 75g Caws Ruby wedi’i gratio, gan droi i’w cyfuno.
Ychwanegwch yr hufen dwbl a’r taragon ffres, gan droi, ac yna’r dŵr pasta dros ben.
Yn olaf, ychwanegwch y macaroni wedi’i ddraenio i’r cymysgedd, gan ei droi i sicrhau bod pob darn wedi’i orchuddio’n llwyr â saws.
Arllwyswch y cymysgedd i ddysgl popty ddwfn, a rhowch weddill y caws wedi’i gratio ar ei ben.
Trefnwch y soch mewn sach ar ben y caws wedi’i gratio, yn sticio allan ar ychydig o ongl.
Gwasgarwch y cymysgedd stwffin saets a nionod dros y macaroni caws, yna toddwch weddill y menyn a’i arllwys dros y top i helpu i’w atal rhag sychu, neu losgi o dan y gril.
Cynheswch y gril i wres isel i ganolig, rhowch y ddysgl y tu mewn yn ofalus a’i grilio am 8-10 munud, nes ei fod yn euraidd ac yn byrlymu. Mwynhewch!