Caws Emrallt Selsig Morgannwg Cymreig gan @TheRareWelshBit
Cam wrth Gam
CYNHWYSION RYSÁIT
175g caws Emrallt Dragon, wedi’i gratio
175g briwsion bara gwyn ffres
2 lwy fwrdd persli ffres wedi’i dorri
½ llwy de powdr mwstard
¼ llwy de pupur
2 wy canolig
2 lwy fwrdd llaeth cyflawn
¼ llwy de halen
Blawd plaen, i orchuddio
Menyn Hallt Dragon
2-3 llwy fwrdd Picl Picalili a salad, i weini
CYFARWYDDIADAU RYSÁIT
Cyfunwch y caws, y 100g o friwsion bara ffres, y persli, y powdr mwstard, a’r pupur.
Gwahanwch y melynwy oddi wrth y gwynwy, gan roi’r gwynwy i’r naill ochr. Curwch y melynwy gyda’r llaeth, a’i droi i mewn i’r cymysgedd briwsion bara. Defnyddiwch eich dwylo i gyfuno’r cymysgedd, gan ei rolio’n belen.
Rhannwch y cymysgedd yn wyth darn, a rholiwch bob un i siâp selsigen, tua 3 modfedd o hyd. Gorchuddiwch nhw a’u hoeri am awr.
Sesnwch y blawd plaen gyda’r halen, a gorchuddio pob ‘selsigen’ yn y blawd wedi’i sesno.
Chwisgwch y gwynwy’n ysgafn nes ei fod ychydig yn ewynnog a gorchuddio pob selsigen, cyn rholio pob un yn y briwsion bara sy’n weddill.
Cynheswch y menyn Dragon mewn padell ffrio drom a ffriwch y selsig yn fas dros wres ysgafn am 2-3 munud yr ochr, nes eu bod yn grimp ac yn euraidd drostynt.
Gwnewch yr un fath eto i sicrhau eu bod wedi coginio drwyddynt gan goginio’r selsig am ryw 15 munud.
Gweinwch gyda Picl Picalili Dragon, a salad ochr crensiog.
Nodiadau/Cyngor
Wrth gymysgu’r cynhwysion, anelwch at wead tebyg i does ag ansawdd sticlyd (yn hytrach na gwlyb).
Peidiwch â chael eich temtio i beidio ag oeri eich selsig Morgannwg; mae hyn wir yn helpu i glymu’r cynhwysion at ei gilydd.
Gallwch hefyd goginio eich selsig Morgannwg mewn ffrïwr aer am 12 munud, ond ni fyddant mor grimp nac euraidd.
Gallwch ddefnyddio llwy de o fwstard Seisnig yn lle’r powdwr mwstard os yw’n well gennych, ond bydd angen i chi guro’r mwstard gyda’r melynwy a’r llaeth, yn hytrach na’i ychwanegu at y cymysgedd briwsion bara.
Bydd selsig Morgannwg yn aros yn ffres am 1-2 ddiwrnod yn yr oergell, neu’n rhewi mewn cynhwysydd aerglos am 3-4 mis. Os ydyn nhw wedi rhewi, coginiwch nhw am 20-25 munud ar 180C/160C ffan/nwy 4.