HOTPOT TATWS A SELSIG
6 selsig cig moch 6 sleisen o gig moch wedi’i fygu â derw 6 deilen bresych 1 nionyn Mawr (wedi’i dorri’n fân) 3 moron mawr (wedi’i torri’n fân) 1 blodfresych mawr 100g menyn hallt Halen a pupur 1 llwy fwrdd Mwstard grawn cyflawn 450ml stoc llysiau 150g caws clasurol Dragon (wedi’i gratio) Sbrigyn o theim Tatws Maris Piper a tatws Rudolph (gadael y croen arnynt a’u sleisio’n dennau)
LLYSIAU GWYRDD YR HYDREF
4 sleisen o gig moch wedi’i fygu â derw (wedi’i dorri’n frâs) 1 cenhinen fawr (wedi’i sleisio’n denau) Lwmpyn mawr o fenyn hallt Dragon 300g pys wedi’i rhewi 30g caws clasurol a chennin Dragon (wedi’i friwsioni) Sbrigyn o teim ffres Halen a Pupur
HOTPOT TATWS A SELSIG
Cynheswch y popty i 180C ffan Rhowch y darnau blodfresych mewn tun rhostio, arllwyswch ychydig o olew, halen a phupur drosto a’i rostio nes eu bod yn troi’n euraidd. Lapiwch bob selsig gyda sleisen o gig moch a’u brownio mewn padell ffrio, rhowch i un ochr. Berwch ddwr mewn sosan ag ychwanegu’r dail bresych. Coginiwch am ychydig o funudau ac yna eu rhoi mewn powlen o ddwr oer i stopio’r dail goginio. Unwaith bydd y dail ddigon oer, lapiwch yn dynn o amgylch y selsig a’i rhoi mewn dysgl gaserol fawr. Rhowch y moron yn y badell gafodd ei ddefnyddio i frownio’r selsig a’u rhoi yn y ddysgl dros y bresych. Ychwanegwch ychydig o fenyn i’r badell a choginio’r garlleg a’r nionyn nes eu bod yn feddwl. Ychwanegwch y teim a halen a pupur. Tynnwch y blodfresych o’r popty a’u rhoi mewn jwg/powlen a rhoi’r gymysgedd nionod ar ei ben. Ychwanegwch y caws wedi’i gratio, mwstard a stoc. Defnyddiwch gymysgwr trydan i gymysgu’r cyfan yn esmwyth. Rhowch y saws ar ben y parseli selsig. Sleisiwch y tatws yn dennau efo mandolin neu efo llaw a’u trefny ar ben y saws yn sefyll fel fod y croen yn gwynebu fyny. Toddwch weddill y menyn a’i frwsio ar hyd y tatws cyn roi mwy o halen a pupur a teim. Rhowch gaead ar y ddysgl a’i goginio am 40-50 munud Gwnewch yn siwr fod y tatws wedi coginio trwodd yna tynnwch y caead a troi’r gwres fyny i 200C ffan a’i goginio am 10 munud nes fod y tatws yn grimp.
LLYSIAU GWYRDD YR HYDREF
Toddwch y menyn mewn padell ffrio, ychwanegwch y cig moch, cennin a teim. Coginiwch nes fod y cig moch wedi coginio trwodd a’r cennin yn feddal. Ychwanegwch y pys a’u coginio am 3-4 munud Ychwanegwch halen a pupur i’ch blas Rhowch mewn powlen fawr a briwsioni’r caws drosto.