Ffondw Cheddar o Geudwll gyda Wisgi

CavernPlatinum_Fondue_LR

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

  • 60g Menyn Hallt Cymreig Dragon 
  • 60g Blawd Plaen 
  • 1 llwy de powdr mwstard 
  • 1 llwy de saws Worcestershire 
  • 120ml llefrith llawn 
  • 400g Caws Cheddar gyda Wisgi (Onyx) 
  • Pupur du 
  • Bara, afal neu bacwn i weini 

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

  1. Mewn sospan fach toddwch y menyn 
  2. Ychwanegwch y blawd, powdr mwstard a’r saws Worcestershire nes ei fod yn llyfn 
  3. Yn araf ychwanegwch y llefrith 
  4. Codwch i ferwi a coginio am 2 funud nes ei fod wedi twchu
  5. Trowch y gwres i lawr ac ychwanegwch y caws. Coginiwch a throwch nes fod y caws wedi toddi. 
  6. Arllwyswch mewn i bot fondw neu mewn i ‘slow cooker’ 
  1. Gweinwch gyda bara, afal neu bacwn. 

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?