Fajitas Twrci a Chaws

Turkey-Cheddar-Fajitas

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

  • 400g twrci wedi ei goginio a’i rwygo
  • 3 llwy fwrdd o saws tsili melys
  • 1 llwy fwrdd o olew olewydd
  • Sudd leim
  • Cumin
  • 8 wrap tortilla
  • 1 nionyn coch, wedi’i sleisio’n dena
  • 120g Cheddar aeddfed, wedi’i gratio
  • Hanner letis Iceberg neu roced
  • 1 avocado, wedi’i blicio a’i sleisio’n dena
  • Siytni Mango
  • Crème Fraiche
  • Halen Môr Halen Môn
  • Pupur du

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

  1. Cymysgwch y saws chili, olew olewydd, cumin a sudd leim – gorchuddiwch y twrci a’i farineiddio am awr.
  2. Ffriwch y nionon mewn ‘chydig o olew tan yn feddal, ychwanegwch y twrci a’i goginio tan fod y twrci yn boeth.
  3. Cynheswch y wraps mewn meicrodon am 30 eiliad.
  4. Rhowch siytni Mango ar y wraps a rhoi’r letis, avocado a twrci ar ei ben.
  5. Rhowch ‘chydig o crème fraiche ar ben bob dim ai ysgeintio efo caws wedi’i gratio Rhowch halen a pupur arno ai fwynhau!

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?