Crympets caws â rarebit Cymreig

Cheesy-Crumpets

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

Crympets caws
125ml llefrith
100ml dŵr oer
½ llwy de o siwgr mân
½ llwy fwrdd o furum sych
½ llwy de o bicarbonad
150g blawd bara
½ llwy de o halen
½ llwy de o fwstard
120g Caws Aeddfed Dragon wedi’i gratio

RAREBIT
1 cenhinen wedi’i sleisio
2 llwy fwrdd o flawd plaen
120g Caerffili Dragon wedi’i grymblo
1 wy mawr wedi’i guro
75ml llefrith cyflawn/cwrw
1 llwy de o fwstard
5 dropyn o saws ‘Worcestershire’
Halen a pupur
Menyn dragon i iro a meddalu’r cennin

TOPINS DEWISIOL
Wyau
Bacwn wedi’i fygu
Petalau blodau bwytadwy
Shibwns

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

CRYMPET
Cynheswch y llefrith a dwr mewn sosban, ychwanegwch y burum a’r siwgwr a’i adael nes yn ewynnu Cymysgwch y blawd, halen a bicarb mewn powlen, ychwanegwch y gymysgedd llefrith a’i gymysgu nes yn llyfn.Gadwch y gymysgedd am 45 munud nes ei fod yn dechrau byrlymu. Ychwanegwch y caws a’r mwstard Irwch tu fewn i gylchoedd crympet efo Menyn Cymreig Dragon Rhowch y cylchoedd mewn padell ffrio a’u llenwi ¾ llawn efo’r gymysgedd crymped Coginiwch am 8-12 munud tan fod y r arwyneb yn byblo a wedi setio Trowch y crymped drosodd, tynnwch y cylch a’u coginio am 1 munud. Ail adroddwch efo gweddill y gymysgedd Sleisiwch y cennin a’i feddalu mewn padell efo Menyn Dragon

RAREBIT
Coginiwch y blawd, caws, wy, llefrith a mwstard, saws ‘Worcestershire’ a halen a phupur mewn sosban nes eu bod yn drwchus ac yn byrlymu. Ychwanegwch y cennin wedi’i feddalu, cymysgwch yn dda a’i adael i oeri nes yn barod i weini. Ffriwch wy mewn chydig o olew mewn cylch crymped, coginiwch y bacwn yn yr un badell I weini, rhowch y crymped ar bapur pobi efo’r wy ar ei ben yna’r gymysgedd rarebit a griliwch tan yn byrlymu ac yn dechrau troi’n liw euraidd. I orffen, addurnwch efo nionyn wedi’i dorri a petalau blodau bwytadwy.

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?