Afalau pôb efo caws o’r ceudwll efo wisgi Penderyn

Cavern Aged Baked Apples Low Res

Cam wrth Gam

CYNHWYSION RYSÁIT

  • 4 afal Braeburn 
  • 40g blawd 
  • 40g menyn 
  • 20g ceirch 
  • 35g siwgwr demerara/muscovado golau 
  • Pinsiad o sinamon 
  • 50g syltanas 
  • 100ml wisgi Penderyn (dewisiol) 
  • 60g Caws o’r ceudwll efo wisgi Penderyn  

CYFARWYDDIADAU RYSÁIT

  1. Torrwch top yr afalau i ffwrdd (tua 2 cm) a tynnwch y canol allan gan ddefnyddio sgwp melon 
  2. Mwydwch y syltanas yn y wisgi  Penderyn i’w ailhydradu (neu defnyddiwch de, sudd afal neu unrhyw hylif o’ch dewis) 
  3.  Cyfunwch y menyn, siwgwr, blawd, ceirch a sinamon gyda’i gilydd i wneud crymbl 
  4. Llenwch yr afalau gyda’r syltanas a’i orchuddio efo’r gymysgedd crymbyl 
  5. Gratiwch y caws dros ben pob afal, gan gynnwys y caead 
  6. Pobwch yr afalau a’r caedaua mewn popty 180 gradd am 25-30 munud 
  7. Rhowch y caead yn ôl ar ben yr afal a’i weini efo hufen ia, cwstard neu hufen 

Pa Gaws ddylwn i ei brynu ar gyfer hyn?