Tynnwch unrhyw fraster ychwanegol i ffwrdd o’r syrlwyn, torrwch mewn i stêc a’i frownio’n dda ar bob ochr yn y menyn.
Oerwch y cig drwy ei osod mewn ‘cling film’ ai rholio’n dyn ai osod yn yr oergell. Fel arall, rostiwch y cig eidion yn gyfan nes ei fod yn binc yn y canol
Ar gyfer y tatws…
Pliciwch a sleisiwch y tatws yn denau ac ychwanegwch yr hufen, garlleg, halen a phupur a berwch.
Unwaith mae wedi berwi rhowch y tatws i mewn i dun bara neu fowld terrine gorchuddiwch mewn ffoil a’i bobi am 30-35 munud ar 170C.
Unwaith mae o wedi gorffen coginio rhowch dun arall ar ri ben a’i wasgu dros nos. (Mi fydd yr hufen ychwanegol yn dod allan o’r gratin felly rhowch dre danodd) Fel arall, irwch dre pobi efo menyn a gosodwch y tatws mewn haenau tolldwch y cymysgedd hufen, garlleg, halen a phupur dros y tatws ac ychwanegu caws wedi ei ratio.
Rhowch y tatws yn y popty i bobi am tua 1 awr tan ei bod wedi coginio trwodd ac yn lliw brown euraidd.
Ar gyfer y llysiau…
Pliciwch y llysiau a’u coginio mewn dŵr hallt berwedig am 2-3 munud a wedyn ei rhoid mewn dŵr oer am ychydig i gadw’r llysiau yn ffres.
I weini
‘Sous vide’ yw’r ffordd fwyaf cyson o goginio’r cig eidion. Awgrymwn eich bod yn coginio’r cig eidion am 1 awr ar 54C i gael cig tendr, neu rhostiwch mewn padell sydd efo digon o fenyn am 2 funud a hanner i bob ochr a’i adael i orffwys am 4 munud cyn gweini. Os rydych wedi rhostio’r cig yn gyfan gweinyddwch tra mae’r cig yn gynnes.
Rhowch y gratin tatws yn y popty efo ychydig o gaws wedi ei ratio ar ei ben ai bobi am 10-12 munud.
Cynheswch y llysiau mewn sosban efo menyn, neu os rydych yn chwilio am wmff ychwanegol, gwnewch ‘reduction’ hefo stoc cyw iâr a menyn ac wedyn ychwanegu’r llysiau Gweinwch ar blât cynnes a gorffennwch efo jws a ‘pea cress’.