Pensiynwyr Chelsea yn cael Blas o Caws Dragon

Rydym wedi bod yn lledaenu hwyl y Nadolig i gyn-filwyr fel rhan o draddodiad sy’n ymestyn yn ôl dros 300 mlynedd.

Mae gwneuthurwyr caws o Hufenfa De Arfon wedi rhoi detholiad o’u cawsiau gorau, gan gynnwys Caerffili, Cheddar, Halen Mȏn a chaws coch Cymreig i Bensiynwyr Chelsea.

Mae Seremoni’r Cawsiau Nadolig blynyddol yn dyddio’n ôl i agoriad yr Ysbyty Brenhinol yn 1692 pan ofynnodd y pensaer o fri Syr Christopher Wren, a gynlluniodd Eglwys Gadeiriol St Paul’s, i werthwyr caws lleol ddarparu caws i’r pensiynwyr fel rhodd flasus dros y Nadolig.

Yn hanesyddol, mae cheddar wedi chwarae rhan bwysig wrth ddarparu maethynnau pwysig i filwyr ac adfywiwyd traddodiad Seremoni’r Cawsiau Nadolig yn 1959 ac mae wedi cael ei ddathlu ers hynny, gyda Hufenfa De Arfon ymhlith y gwneuthurwyr caws sy’n cyfrannu rhai o gawsiau gorau’r DU.

Dywedodd Alan Wyn Jones, rheolwr gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon, sydd wedi’i lleoli yn Chwilog, ger Pwllheli: “Roeddem yn falch iawn o gael y cyfle unwaith eto i roi detholiad o’n cawsiau gwych i Bensiynwyr Chelsea.

“Mae Seremoni’r Cawsiau Nadolig yn draddodiad gwych sy’n crisialu’r ysbryd o roi yn ystod yr ŵyl ac yn ffordd ymarferol a blasus o ddiolch i’r cyn-filwyr am eu gwasanaeth. Hir y parhao.

Cyflawnwyd y gwaith traddodiadol o dorri’r caws seremonïol eleni gan Michael Allen, un o Bensiynwr Chelsea a ymunodd â’r Fyddin yn 15 oed, fel Prentis Bachgen yn 1957.

Yn oedolyn, bu wedyn yn gwasanaethu yng Nghenia a Ffrainc cyn ymuno â Llu Tir y Dwyrain Pell ym Morneo.

Treuliodd weddill ei wasanaeth rhwng Gogledd Iwerddon a’r Almaen ac fe’i rhyddhawyd yn y pen draw yn 1982 ar ôl gwasanaethu am 24 mlynedd ac ar ôl cael ei ddyrchafu yn Rhingyll. Ymunodd Michael ag Ysbyty Brenhinol Chelsea yn 2007.

Hefyd yn cymryd rhan yn y seremoni roedd dau arall o Bensiynwyr Chelsea, sef Ted Fell a Roy Palmer.

Y gwesteion difyr eleni oedd sêr Strictly Come Dancing, Erin Boag ac Ian Waite a fu’n dawnsio waltz a foxtrot.

Dywedodd cadeirydd Dairy UK, Ash Amirahmadi: “Fel diwydiant rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb fel un o’r sectorau bwyd sy’n helpu i fwydo’r wlad o ddifrif.

“Rydym yn gwybod bod pobl yn dibynnu arnom ac er nad yw eleni wedi bod yn flwyddyn hawdd i’r sector, rydym i gyd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod bwydydd llaeth maethlon a chynaliadwy sy’n blasu’n wych ar silffoedd archfarchnadoedd.

“Mae’n anrhydedd i ni allu rhannu llawer o’n cawsiau Prydeinig gorau gyda dynion a merched yr Ysbyty Brenhinol yn Chelsea heddiw.”

Rhannwch y swydd hon ar eich hoff rwydwaith cymdeithasol!
Facebook
Twitter
LinkedIn