Panettone Tost Ffrengig gyda Saws Caws Dragon Onyx

Panettone Tost Ffrengig gyda Saws Caws Dragon Onyx a Wisgi Penderyn Wedi'i Wneud â Llaw o Geudwll Llechi, Siytni Llugaeron, a Chnau Ffrengig wedi'u TostioGan y blogiwr bwyd a theithio, Llio Angharad, Dine & Disco

Mae ein detholiad Dragon Wedi’i Wneud â Llaw yn cael ei wneud i rysáit bwrpasol, gan aeddfedu dros nifer o fisoedd yng Ngheudyllau Llechi Llanfair yng ngogledd Cymru hyd nes y caiff ei ddewis ar yr adeg berffaith gan raddiwr arbenigol Dragon.

Mae detholiad Dragon Wedi’i Wneud â Llaw o Geudwll Llechi wedi’i enwi ar ôl gemau a metelau gwerthfawr – mae’r rhain yn cynnwys Platinum, Cheddar aeddfed iawn, Ruby, Red Leicester Cymreig, Emerald, Cheddar wedi’i gymysgu â chennin ac yn olaf Onyx, Cheddar gyda wisgi Cymreig arobryn Penderyn.

Y Nadolig hwn, beth am greu argraff ar eich gwesteion gyda’r rysáit Panettone Tost Ffrengig gyda Chaws Dragon Onyx o Geudwll Llechi Wedi’i Wneud â Llaw. Pryd moethus, yn llawn blasau hufennog cawslyd cyfoethog, wedi’i haenu â chnau Ffrengig wedi’u torri a saws llugaeron, yn berffaith ar gyfer y Nadolig.

Amser paratoi: 20 munud

Amser coginio: 10 munud

Digon i: 4

Cynhwysion:

Ar gyfer y Panettone Tost Ffrengig:

  • 1 Panettone canolig (tua 500g)
  • 4 wy mawr
  • 150ml llaeth cyflawn
  • 1 llwy de rhin fanila
  • 2 lwy fwrdd siwgr gronynnog
  • Menyn i ffrio

Ar gyfer y Saws Caws Cheddar Onyx a Wisgi Penderyn o Geudwll Llechi:

  • 200g Caws Cheddar Onyx a Wisgi Penderyn o Geudwll Llechi, wedi’i gratio
  • 300ml hufen dwbl
  • Halen a phupur du mâl ffres at eich dant

Ar gyfer y siytni llugaeron

  • 150g llugaeron (ffres neu wedi’u rhewi)
  • 100g siwgr gronynnog
  • 60ml dŵr
  • 1 oren bach, y croen a’r sudd
  • 1 ffon sinamon

Ar gyfer y cnau Ffrengig wedi’u tostio:

  • 100g cnau Ffrengig, wedi’u torri a’u tostio

 Dull:

  1. Paratowch y siytni llugaeron:
  • Mewn sosban, cyfunwch y llugaeron, siwgr gronynnog, dŵr, croen oren, sudd oren, a’r ffon sinamon.
  • Dewch â’r cymysgedd i’r berw dros wres canolig-uchel, yna gostyngwch y gwres i isel a mudferwch am tua 10-15 munud, neu nes bod y llugaeron yn byrstio a’r cymysgedd yn tewhau.
  • Tynnwch oddi ar y gwres, taflwch y ffon sinamon, a gadewch i’r siytni oeri.
  1. Paratowch y saws caws Cheddar Onyx a Wisgi Penderyn o Geudwll Llechi:
  • Mewn sosban dros wres canolig, cynheswch yr hufen dwbl nes ei fod yn boeth ond heb ferwi.
  • Ychwanegwch y Cheddar Onyx a Wisgi Penderyn o Geudwll Llechi wedi’i gratio a’i droi nes bod y caws wedi toddi’n llwyr a’r saws yn llyfn.
  • Ychwanegwch halen a phupur du ffres mâl at eich dant. Cadwch y cyfan yn gynnes.
  1. Paratowch y Panettone Tost Ffrengig:
  • Torrwch y Panettone yn 4 sleisen drwchus.
  • Mewn powlen fas, chwisgiwch yr wyau, y llaeth cyflawn, y fanila a’r siwgr gronynnog.
  • Trochwch bob sleisen Panettone i mewn i’r cymysgedd wy, gan sicrhau bod y ddwy ochr wedi’u gorchuddio.
  1. Coginiwch y tost Ffrengig:
  • Mewn padell ffrio fawr, toddwch dalp o fenyn dros wres canolig-uchel.
  • Rhowch y sleisys Panettone yn y badell a’u coginio am 2-3 munud bob ochr neu nes eu bod yn frown euraidd ac ychydig yn grensiog.
  1. Gosodwch:
  • Rhowch ddwy dafell o dost Ffrengig ar bob plât gweini.
  • Rhowch 4 llwy fwrdd o’r Saws Caws Cheddar Onyx a Wisgi Penderyn o Geudwll Llechi dros y tost Ffrengig.
  • Ychwanegwch lwyaid dda o siytni llugaeron ar ben y saws caws.
  • Ysgeintiwch gnau Ffrengig wedi’u tostio ar y top i ychwanegu gwead.
  1. Gweinwch:
  • Mwynhewch eich Panettone Tost Ffrengig gyda Saws Caws Cheddar Dragon Onyx a Wisgi Penderyn Wedi’i Wneud â Llaw o Geudwll Llechi, Siytni Llugaeron, a Chnau Ffrengig wedi’u Tostio fel brecwast moethus neu frecinio arbennig. Os oes gennych unrhyw saws caws ar ôl, cofiwch ei rewi i wneud pryd macaroni caws blasus yn y dyfodol.
Rhannwch y swydd hon ar eich hoff rwydwaith cymdeithasol!
Facebook
Twitter
LinkedIn