Gyda’r plant yn mynd yn ôl am flwyddyn newydd yn yr ysgol ar ôl bod adref am gyfnod hir, gall fod yn anodd meddwl beth i roi yn eu bocsys bwyd. Mae Imran Nathoo (kitchen clonc) wedi cynllunio tri rysait blasus i gadw’r bocsys bwyd yn ddiddorol! Fel tad i ddau o blant mae o’n deallt pa mor hawdd yw syrthio mewn i drefn diflas ond drwy feddwl ‘chydig yn wahanol gall wneud amser bwyta yn gyffroes. Gall yr holl ryseitiau gael eu dyblu i wneyd mwy a gallwch eu gwneud o flaen llaw. Wrth gwrs does dim rhaid i rhain gael eu defnyddio i focsys bwyd y plant yn unig, gallwch wneud rhain i’r teulu i gyd; boed yn mynd i weithio mewn swyddfa neu o adref!
Os fyddwchi’n trio rhai o’r ryseitiau yma, tynnwch luniau a’u gyrru draw atom @Dragon_Wales @kitchenclonc
Pryd hawdd all gael ei wneud o flaen llaw, cynnwys lot o lysiau a blasu’n fendigedig. Mae’r saws yno er mwyn bwyta efo’r quesadillas ond does dim rhaid i chi ei gynnwys. Gallwch ddefnyddio unrhyw lenwad o’ch dewis e.e. corn melyn a nionyn coch neu Caws Dragon Handcrafted wedi’i gochi.
Gweini: 2
Paratoi: 15 munud
Coginio: Quesadillas – 10-20 munud, Saws tomato 45-60 munud
Cynhwysion:
100g Caws Mwyn/Aeddfed Dragon wedi’i gratio
½ pupur coch – wedi’i dorri’n fân
½ pupur melyn – wedi’i dorri’n fân
4 wrap tortilla meddal
165g o domatos bach
½ bwlb o arlleg
Olew olewydd
Halen a pupur
Dull
Cynhewswch y popty i 160C, torrwch y tomatos yn eu hanner a’i cymysgu efo ‘chydig o olew a halen a pupur. Rhostiwch yn araf am 45-60 munud
Lapiwch y garlleg mewn foil a’i roi yn y popty efo’r tomatos
Pan yn barod; rhowch y tomatos a un ewin o’r garlleg rhost (wedi’i blicio) mewn i gymysgwr a’i blitsio nes yn saws trwchus. Rhowch mewn botyn efo caead.
Cynysgwch y caws efo’r pupur mewn powlen. Rhowch 100g ohono ar un wrap tortilla a rhoi wrap arall ar ei ben. Rhowch y wraps mewn padell sych a’r dymheredd canolig.
Coginiwch am 5 munud pob ochor a tan fod y caws wedi toddi
Gwnewch fwy o wraps neu cadwch y gymysgedd caws a pupur at ddiwrnod arall
Gadewch iddo oeri a’i dorri mewn i chwarteri
Twist ar salad groegaidd traddodiadol gan ddefnyddio caws Caerffili yn lle feta, ma’n gweithio’n gret! Mae rhostio tomatos yn gwneud y blas fwy dwys ond yn eu sychu. Y nod ydi stopio’r pitta fynd yn lyb, gallwch ddefnyddio tomatos heul sych parod i arbed amser! Mae hwn yn blasu’n fendigedig ar ben ei hun felly mae’r dresin yn ddewisiol ond mae’n ychwanegu elfen arall o flas!
Gweini: 2
Paratoi: 15
Coginio: 45-60 minutes (saws tomato)
Cynhwysion
100g Caws Caerffili Dragon – wedi’i grymblo
165g tomatos bach
60g ciwcymbyr
1 nionyn coch – wedi’i sleisio
40g olewydd du wedi’i sleisio
1 letys gem fach – wedi’i sleisio
1 lemon
Olew olewydd
¼ llwy de o Oregano
Halen a pupur
2 bara pitta cyflawn
Dull
Cynhewswch y popty i 160C, torrwch y tomatos yn eu hanner a’i cymysgu efo ‘chydig o olew a halen a pupur. Rhostiwch yn araf am 45-60 munud. Gadewch i oeri.
Mewn powlen cymysgwch y tomatos, ciwcymbyr, nionyn coch, olewydd a letys.
Ychwanegwch y caws Caerffili a’i gymysgu
I’r dresin: cyfunwch sudd 1 lemwn, olew (hanner faint o sudd lemwn sydd ganddo chi) oregano sych, halen a pupur. Cymysgwch yn dda a’i roi mewn potyn efo caead.
Cynhewsh y bara pitta mewn tostiwr neu o dan gril nes ei fod yn codi yn y canol; torrwch yn ei hanner a’i agor fel poced
Llenwch y bara pitta efo’r llenwad. Mwynhewch!
Dim yn unig mae rhain yn hawdd eu gwneud ond mae nhw’n cynnwys hwb o egni ac yn blasu’n wych. Perffaith ar gyfer bocsys bwyd ac yn gwneud digon ar gyfer yr wythnos gyfan. Torrwch mewn i fariau neu sgwariau a defnyddiwch siocled o’ch dewis chi. Mae rhain yn defnyddio siocled tywyll i gadw’r lefelau siwgwr lawr a chael mwy o flas! Gallwch wneud rhain gyda dim siwgwr ychwanegol.
Gwneud: 12
Paratoi: 15 munud
Coginio: 20-25 munud
Cynhwysion:
280g ceirch – wedi’i blitzio yn flawd mewn prosesydd bwyd
100g Menyn Hallt Cymreig Dragon
1 llwy de o bowdwr pobi
75g menyn cnau daear
2 wy
1 llwy de o fanila
1 banana – wedi’i stwnsho
100g o siocled tywyll plaen – wedi’i dorri’n ddarnau
50g o siwgwr mân euraidd (dewisiol)
Dull:
Cynheswch y popty i 180C ac irwch a leiniwch dun pobi (9×13 modfedd/23x33cm neu debyg)
Mewn powlen, cymysgwch y ‘blawd’ ceirch a powdwr pobi
Mewn sosban fach, toddwch y menyn a’i dollti mewn i fowlen arall a’i gymysgu efo’r menyn cnau, fanila, banana, siwgwr a’r wyau. Cymysgwch yn dda.
Plygwch y gymysgedd sych efo’r gymysgedd gwlyb ac ychwanegu’r siocled a’i gymysgu mewn.
Trosglwyddwch y gymysgedd i’r tun pobi, gwasgarwch a’i wneud yn fflat efo cefn llwy.
Pobwch ar y silff ganol am 20-25 munud nes yn euraidd
Tynnwch o’r popty a’i adael i oeri yn y tun. Pan fydd wedi oeri, tynnwch allan o’r tun a’i sleision mewn i fariau/sgwariau
Cadwch mewn cynhwysydd aerdynn a lapio darnau unigol fel bo’r angen.