Ers ymddeol fel dyfarnwr rygbi ym mis Rhagfyr 2020, mae Nigel i’w weld ar ei fferm ger Pontyberem gyda’i fuches o wartheg Henffordd. Mae’n gefnogwr brwd o’r diwydiant amaethyddol ac mae bellach yn cefnogi ffermwyr llaeth Cymru.
Yn gyntaf, aeth Nigel draw i gartref un o’n haelodau ffermwyr, Siôn Hughes, ger Cricieth, i weld drosto’i hun o ble mae’r llaeth yn dod. Dysgodd Nigel sut mae ein cwmni cydweithredol yn cefnogi ffermwyr lleol yng Nghymru a sut mae’r holl laeth rydyn ni’n ei ddefnyddio’n dod gan ein haelodau ledled Cymru. Roedd gweld sut mae’r hufenfa’n rhan annatod o’r gymuned, ac yn cadw swyddi yng Nghymru, wedi creu argraff ar Nigel.
Yna cafodd Nigel daith lawn o amgylch y ffatri gan ein Pennaeth Gweithrediadau, Mark Edwards, a chael gweld sut mae ein caws premiwm yn cael ei wneud, o’r dechrau i’r diwedd, gyda sesiynau blasu ar hyd y ffordd wrth gwrs.
Y man galw olaf oedd Ceudyllau Llechi Llanfair ger Harlech i weld ble mae ein caws Dragon Wedi’i Wneud â Llaw yn cael ei aeddfedu dros nifer o fisoedd i gynhyrchu ei flas a’i wead unigryw. Aeth Nigel i lawr yn ddwfn o dan y ddaear a gweld ein cawsiau’n aeddfedu’n braf yn yr ogofâu.
Gwyliwch y fideo i weld mwy isod.
Cofiwch, os hoffech ennill gwerth blwyddyn o’n caws Dragon Wedi’i Wneud â Llaw i’r teulu yn 2024, sef 250 pecyn sy’n pwyso 50kg, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr yma neu dilynwch ein tudalennau cymdeithasol i gystadlu.