Llwyddiant yr Haf I’r Hufenfa: Caws Coch o Geudwll yn ennill yn y Sioe Frenhinol

Llwyddiant yr Haf I’r Hufenfa: Caws Coch o Geudwll yn ennill yn y Sioe Frenhinol

Rydym o’r diwedd wedi gallu mwynhau ychydig o dywydd braf dros y wythnosau dwythaf, ac yma yn Dragon, rydym wedi bod yn brysur yn mynychu Sioeau’r Haf. Nidy n unig cyfle I werthu caws ydi’r Sioeau ond yn gyfle I arddangos ein cynyrch yn y dosbarthiadau cynyrch llaeth, ac tydi eleni heb fod dim yn wahanol!

Ychydig o wythnosau yn ol bellach roedd uchafbwynt y calendr Amaethyddol yma yng Nghymru sef, y Sioe Frenhinol. Rydym yn mynychu’r Sioe pob blwyddyn gyda lle yn y Neuadd Fwyd a llond fan o’n cawsiau gorau. Eleni rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi ein bod wedi ennill gwobr am y Caws Rhanbarthol Gorau gyda ein Caws Coch Cymreig o Geudwll sef y Cavern Ruby. Ers ei lansiad llynedd, mae’r caws yma wedi dod yn boblogaidd dros ben ac yn ffefryn ymysg ein tîm.

Mae’r Cavern Ruby yn ychwanegiad perffaith I unrhyw fwrdd caws fel y byddwch yn croesawu gwestai dros misoedd yr Haf. Nid yn unig fel byr-bryd allwch fwynhau’r caws yma, mae’n gaws aml-bwrpas gall ei gynnwys mewn llu o ryseitiau. Ein ffefryn ni yw’r Byrgers Cig Eidion wedi ei stwffio gyda Caws Coch Cymreig, perffaith ar gyfer eich BBQ!

Rhannwch y swydd hon ar eich hoff rwydwaith cymdeithasol!
Facebook
Twitter
LinkedIn