Haf 2022 – Edrcyh yn ol ar Haf brysur iawn

Haf 2022 - Edrcyh yn ol ar Haf brysur iawn

Mae Haf 2022 wedi bod yn un i’w gofio i pawb eleni, gyda chyfnodau poeth iawn yma yng Nghymru o ran tywydd, gyda’r tymheredd yn torri record ambell waith. Yma yn Dragon mae wedi bod yn Haf I’w gofio ac yn filch iawn o gael bod yn ol yn y sioeau a gweld ein cwsmeriaid wyneb yn wyneb unwaith eto.

Dechreuodd ein Haf yng Ngwyl Fwyd Caernarfon, ble cawsom ddiwrnod heulog braf a phrysur, gyda’r Wyl yn croesawu dros 50,000 o ymwelwyr I’r dref ar y 14fed o Fai. Mae’r Wyly n trawsnewid dref hanesyddol Caernarfon am yr un diwrnod yma ac yn cynnwys stondinau bwyd a diod lleol a ymhellach yn ogystal a chael llwyfannau I diddanu’r ymwelwyr. Cawsom ddiwrnod prysur iawn ac yr oeddem yn barod I fynd ymlaen I’r sioe nesaf.

Am ddau ddiwrnod, 21ain a 22ain o Fai fe aethom draw I Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar gyfer Ffair Wanwyn. Mae’r sioe bach dau ddiwrnod yma yn ddathliad o fywyd cefn gwlad, gyda chystadlaethau stoc a cheffylau, arddangosfeydd, gweithgareddau, bwyd a diod a sioe gwn mae yna rhywbeth yno I bawb. Cawsom ddau ddiwrnod braf a phrysur unwaith eto yma a roedd yn braf cael bod yn no lar faes y Sioe yn Llanelwedd.

Ar ddiwedd mis Mehefin fe fynychom ddigwyddiad Gwobrau Cenedlaethol Caws sydd yn ddigwyddiad ar y cyd gyda Love Cheese Live, yn cael ei gynnal ar Faes Sioe Stafford. Mae digwyddiad y gwobrau yn denu cynhyrchwyr caws o led led y byd, gyda dros 4,500 o gawsiau yn cael eu barnu. Digwyddiad dau ddiwrnod ydi Love Cheese Live, gyda stondinwyr Caws, Bwyd a Diod yno am ddau ddiwrnod. Gyda arddangosfeydd, stondinwyr a “Celebrity Chefs” mae’r sioe yn dangos y gorau sydd gan y diwydiant I’w gynnig a rhywbeth yno I bawb.

Yn sicr uchafbwynt y flwyddyn yma yng Nghymru yd’r Sioe Frenhinol, ac yn bendant eleni gyda’r sioe yn dychwelyd ar ol dwy flynedd yr oedd yn siwr am fod yn sioe I’w chofio. Roedd arolygon am dywydd poeth iawn ar gyfer y sioe eleni ond ni arbedodd hyn pawb I ddod I Lanelwedd ar gyfer y sioe pedwar diwrnod yma. Yng nghanol bwrlwm y neuadd fwydd fyddwn ni adeg y sioe gyda ychydig seibiant yna rhag yr haul poeth a digon o stondinau hyfen ia! Braf iawn oedd cael bod yn ol yng nghanol masnachwyr o Gymru ac yn croesawu pawb yn ol I’r neuadd fwyd ac yn uchafbwynt y sioe I ni eleni oedd cael dychwelyd yn ol I’r ffatri wedi ennill Pencamwr y Menyn.

Rydym yn sicr wedi bod yn lwcus iawn gyda’r tywyddd yn ein sioeau eleni, a toedd Sioe Mon ddim gwahanol, gyda’r haul yn tywynnu unwaith eto ar gyfer Sioe Mon 2022, 9fed a 10fed o Awst. Braf oedd cael cyfle I siarad gyda’m ffermwyr a chwsmeriaid yn ystod y Sioe a chael dau ddiwrnod gerth chweil.

Yr wythnos wedyn fe aethom I Sioe Dinbych a Fflint, gyda’r tywydd ar fin troi a rhagolygon am storm ar y ffordd. Fe yr oedd y sioe yn un prysur a llwyddiannus, yn braf iawn unwaith eto I gael gweld ein cwsmeriaid a ffermwyr yn ystod y sioe.

Yna I lawr I’r De ar gyfer Sioe olaf yr Haf, Gwyl Fwyd Abergavenny, 17eg a 18eg Medi. Cawsom dywydd braf iawn unwaith eto, gyda’r dref bach hardd yma dan ei sang efo ymwelwyr I’r Wyl Fwyd bach brysur yma, gyda digonedd o stondinwyr bwyd a diod a digon I diddannu pawb dros y penwythnos, am Wyl bendigedig I gloi’r Haf. Edrychwn ymlaen at wneud hyn I gyd eto blwyddyn nesaf!

Rhannwch y swydd hon ar eich hoff rwydwaith cymdeithasol!
Facebook
Twitter
LinkedIn