Dafydd Besent – Penmaen Isaf

Ffarm Teulu Besent yn Penmaen Isaf

Mae Penmaen Isaf yn ffarm fach ger Machynlleth, Canolbarth Cymru. Mae’r ffarm wedi bod yn y teulu ers 1990 pan wnaeth ei Daid prynu’r lle. Heddiw mae Dafydd a’i Dad yn gwneud y gwaith ffarmio, ei Dad yn canolbwyntio ar y godro a Dafydd ar weddill y gwaith.

Ers pryd mae’r ffarm wedi bod yn y teulu?

Mi wnaeth Nain a Taid brynu’r ffarm ar y 1af o Dachwedd 1960. Ac yn 1990 wnaeth Mam a Dad cymryd y lle drosodd. Rydym wedi bod yn godro ers 2015 pan wnaethom ni adeiladu’r parlwr godro ein hunain.

Seis y fuches?

70

Beth yw diwrnod arferol i chi ar y ffarm?

Rydym yn deffro ac allan erbyn 5:50yb i ddechrau godro. Yna rydwyf yn gwneud gweddill y gwaith ffarm ac yn dod i’r tŷ erbyn 8:00yh, os nad oes ‘na beint i mi yn rhywle am 6:30yh!

Hoff ran o’r swydd?

Gweld personoliaeth y gwartheg a chael dod i nabod nhw.